Math | anialwch, llyn sych |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Harney County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 220 km² |
Uwch y môr | 1,200 metr, 4,006 troedfedd |
Cyfesurynnau | 42.54°N 118.46°W |
Lleolir Anialwch Alvord yn Swydd Harney, yn ne-ddwyrain talaith Oregon ar ochr orllewinol yr Unol Daleithiau. Yn fras, fe'i lleolir i'r de-ddwyrain o Fynydd Steens. Mae'r Anialwch Alvord yn draeth, gwely llyn 12-milltir (19 km) o hyd a 7-milltir (11 km) o led, sy'n derbyn 7 modfedd (180mm) o law ar gyfartaledd yn flynyddol. Caiff ei wahanu o'r arfordir y Mor Tawel gan fynyddoedd y "Coast Range" a Mynyddoedd y Rhaeadru. Ynghyd â'r Mynydd Steen, maent yn creu glawsgodfa. Mae'r Alvord ar uchder o tua 4000 troedfedd (1220m).
Enwyd yr anialwch ar ôl y Capten Benjamin Alvord, a weithiodd fel cad-lywydd yn Adran Fyddinol Oregon yr Unol Daleithiau yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America.
Yn ystod y tymor sych, gellir gyrru ar hyd y tirwedd neu lanio awyren fechan arno. Crëwyd record cyflymder ar dir answyddogol ar gyfer menywod ym 1976, pan yrrodd Kitty O'Neil ar gyflymder o 512 milltir yr awr (843 km/awr). Y gymuned agoasf yw Fields (poblogaeth 11).