Ann Lesley Cotton | |
---|---|
Ann Lesley Cotton | |
Ganwyd | Ann Lesley Cotton 1950 Caerdydd |
Prif wobrau |
|
Entrepreneur cymdeithasol, addysgwraig a dyngarwr yw Ann Lesley Cotton OBE (g. 1950, yng Nghaerdydd). Mae'n un o sefydlwyr Camfed (Campaign for Female Education), mudiad 'nid-am-dâl sy'n ceisio dileu newyn a thlodi yn Affrica.[1][3]
Nod Camfed yw galluogi merched i dorri'n rhydd o hualau 'tlodi' drwy roi addysg a chyfleoedd iddynt. Gwnânt hyn drwy'r ysgolion ac wedi iddynt adael yr ysgol gan geisio roi iddynt y sgiliau angenrheidiol i arwain eu cymunedau lleol. Er mwyn cwbwlhau'r cylch a elwir yn “virtuous cycle” rhoddir statws arbennig i'r myfyrwyr, gan raddio fel alumnae neu 'gynddisgybl' CAMA. Yn aml, dychwela'r disgyblion hyn i'w hysgolion er mwyn hyfforddi myfyrwyr eraill, iau.[6]
Hyd at 2016 roedd dros tair miliwn o blant wedi mynd drwy'r tresi hyn, ac wedi cael budd o raglen waith Camfed.[7]