Anna Wintour

Anna Wintour
Ganwyd3 Tachwedd 1949 Edit this on Wikidata
Hampstead Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain, Greenwich Village Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, golygydd ffasiwn, llenor, golygydd, media executive Edit this on Wikidata
Swyddprif olygydd, cyfarwyddwr artistig, prif olygydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Biba
  • Condé Nast
  • Harper's Bazaar
  • House & Garden
  • New York
  • Oz
  • Viva
  • Harrods
  • Vogue Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Fashion Fund Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadCharles Wintour Edit this on Wikidata
MamEleanor Trego Baker Edit this on Wikidata
PriodDavid Shaffer, Shelby Bryan Edit this on Wikidata
PartnerPiers Paul Read, Nigel Dempster, Richard Neville, Michel Esteban, Shelby Bryan, Bill Nighy Edit this on Wikidata
PlantCharles Shaffer, Katherine Shaffer Edit this on Wikidata
PerthnasauElizabeth Cavendish Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, OBE, CFDA Lifetime Achievement Award, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Great Immigrants Award Edit this on Wikidata
llofnod

Awdures Eingl-Americanaidd yw Anna Wintour (ganwyd 3 Tachwedd 1949) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr a golygydd ffasiwn, ac sy'n olygydd Vogue ers 1988. Ers 2013 mae hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig y cwmni Condé Nast, sef y cwmni sydd berchen Vogue.[1] Yn 2019 roedd ei chyflog honedig yn agos i $2 y flwyddyn.[2][3]) is a British-American[4]

Fe'i ganed yn Llundain ar 3 Tachwedd 1949 yn Hampstead, Llundain i Charles Wintour (1917–1999), ac Eleanor "Nonie" Trego Baker (1917–1995), Americanes a merch athro prifysgol o Havard.[5] Priododd ei rhieni yn 1940 ac ysgarodd y ddau yn 1979.[6] Enwyd Wintour ar ôl ei nain ar ochr ei mam, Anna Baker (née Gilkyson), merch i fasnachwr o Pennsylvania.[7]

Mae ei steil-gwallt pageboy a'i sbectol haul yn nodweddiadol ohoni. Daeth yn un o gymeriadau mwyaf dylanwadol y byd ffasiwn, yn rhyngwladol. Caiff ei hadnabod am ei llygad craff am y trend ddiweddaraf ac am gefnogi cynllunwyr newydd, ifanc. Oherwydd ei chymeriad unigryw, ar wahân, pendant, penstiff, honedig, rhoddwyd iddi'r llysenw "Nuclear Wintour".[8][9][10][11]

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Fashion Fund (2014), ac yn y flwyddyn honno, fe'i henwyd gan y cylchgrawn Forbes fel y 39fed ferch mwyaf dylanwadol a phwerus y byd.

Anna Wintour yn 2019.

Yn yr Unol Daleithiau, mae'n aelod o'r Blaid Ddemocrataidd.

Dylanwad cynnar

[golygu | golygu cod]

Roedd ei thad, Charles Wintour yn golygydd y London Evening Standard (1959–76), ac ymgynghori â hi ar sut i wneud y papur newydd yn berthnasol i ieuenctid y cyfnod. Roedd gan Anna ddiddordeb mewn ffasiwn pan oedd yn ei harddegau a rhoddodd gyngor i'w thad. Dechreuodd ei gyrfa mewn newyddiaduraeth ffasiwn mewn dau gylchgrawn Prydeinig ac yna symudodd i'r Unol Daleithiau. Dychwelodd i Lundain ac roedd yn olygydd British Vogue rhwng 1985 a 1987. Flwyddyn yn ddiweddarach, cymerodd reolaeth ar y cylchgrawn (dan fasnachfraint / franchise) yn Efrog Newydd, gan adfywio'r ffasiwn yno, a oedd yn tin-ymdroi yn ei unfan. Defnydd y cylchgrawn i siapio'r diwydiant ffasiwna llwyddodd i raddau helaeth iawn.

Mae gweithredwyr hawliau anifeiliaid wedi ymosod arni am hyrwyddo ffwr, tra bod beirniaid eraill wedi ei chyhuddo o ddefnyddio'r cylchgrawn i hyrwyddo golygfeydd elitaidd o fenywod a harddwch.


Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o'r Amgueddfa Gelf Fetropolitan am rai blynyddoedd. [12]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Chevalier de la Légion d'Honneur, OBE, CFDA Lifetime Achievement Award (2003), Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (2017), Great Immigrants Award (2010)[13][14] .


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Chris Rovzar, "Anna Wintour, Rest of City Turn Out to Vote", New York, Tachwedd 2008. Adalwyd 10 Awst 2016.
  2. 26 Medi 2005; Who Makes How Much – New York's Salary Guide; New York. Retrieved 3 Mawrth 2007.
  3. "Anna Wintour". Vogue (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-13. Cyrchwyd 2018-11-01.
  4. "Obama supporter Anna Wintour reportedly considered for ambassadorial post by administration", The Hollywood Reporter. Adalwyd 10 Awst 2016.
  5. "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2016.
  6. "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2016.
  7. Oppenheimer, 2. "Eleanor Baker, an American, met Wintour at Cambridge University in England in the fall of 1939 ... [Her mother], Anna Gilkyson Baker, for whom Anna Wintour was named, was a charming, matronly, somewhat ditzy society girl from Philadelphia's Main Line ..."
  8. Rhyw: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  9. Dyddiad geni: https://www.biography.com/people/anna-wintour-214147. "Anna Wintour". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anna Wintour". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anna Wintour". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  10. Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  11. Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  12. Anrhydeddau: https://geoffreybeenefoundation.com/geoffrey-beene-lifetime-achievement-award-cfda-geoffrey-beene-design-scholar-award/. dyddiad cyrchiad: 20 Medi 2019. https://www.carnegie.org/awards/great-immigrants/2010-great-immigrants/.
  13. https://geoffreybeenefoundation.com/geoffrey-beene-lifetime-achievement-award-cfda-geoffrey-beene-design-scholar-award/. dyddiad cyrchiad: 20 Medi 2019.
  14. https://www.carnegie.org/awards/great-immigrants/2010-great-immigrants/.