Anne McLaughlin | |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – 8 Mehefin 2017 | |
Rhagflaenydd | Willie Bain Y Blaid Lafur |
---|---|
Geni | Greenock, Swydd Renfrew, Yr Alban | 8 Mawrth 1966
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Gogledd-ddwyrain Glasgow |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Alma mater | Academi Frenhinol Celf a Drama'r Alban Prifysgol Glasgow |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Gwleidydd o'r Alban yw Anne McLaughlin (ganwyd 8 Mawrth 1966) a oedd yn Aelod Seneddol dros Gogledd-ddwyrain Glasgow rhwng 2015 a 2017. Roedd Anne yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. Bu'n Aelod o Senedd yr Alban rhwng 2009 a 2011. Hi oedd Llefarydd yr SNP dros Hawliau Dinesig.
Fe'i ganed yn Greenock, Swydd Renfrew cyn symud i Glasgow.[1] Mae wedi gweithio'n egniol iawn dros safonnau Saesneg plant Glasgow.
Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[2][3] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Anne McLaughlin 21,976 o bleidleisiau, sef 58% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd aruthrol o +43.9 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 9,222 pleidlais.