Clawr yr argraffiad 1af | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Lucy Maud Montgomery |
Cyhoeddwr | L. C. Page & Company |
Gwlad | Canada |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 13 Mehefin 1908 |
Genre | nofel ddatblygiadol, nofel i blant |
Cyfres | Anne of Green Gables |
Rhagflaenwyd gan | Before Green Gables |
Olynwyd gan | Anne of Avonlea |
Cymeriadau | Anne Shirley, Gilbert Blythe, Diana Barry, Marilla Cuthbert, Matthew Cuthbert, Rachel Lynde |
Prif bwnc | imagination, plentyn amddifad, adoption |
Yn cynnwys | Anne of Green Gables (1908)/Chapter I, Anne of Green Gables (1908)/Chapter II, Anne of Green Gables (1908)/Chapter III, Anne of Green Gables (1908)/Chapter IV, Anne of Green Gables (1908)/Chapter V, Anne of Green Gables (1908)/Chapter VII, Anne of Green Gables (1908)/Chapter VIII, Anne of Green Gables (1908)/Chapter IX |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Gwladwriaeth | Canada |
Lleoliad y gwaith | Prince Edward Island, Avonlea, Green Gables |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Anne of Green Gables yn nofel a gyhoeddwyd gyntaf ym 1908 gan Lucy Maud Montgomery (o dan yr enw L. M. Montgomery). Wedi'i hysgrifennu ar gyfer pob oedran, fe'i hystyriwyd yn nofel glasurol i blant ers canol yr ugeinfed ganrif. Wedi'i gosod ar ddiwedd y 19eg ganrif, mae'r nofel yn adrodd anturiaethau Anne Shirley, merch amddifad 11 oed Mae'r nofel yn adrodd sut mae Anne yn ymlwybro trwy fywyd gyda'r teulu Cuthbert, yn yr ysgol, ac yn y dref.[1]
Anfonir Anne Shirley, plentyn amddifad ifanc o gymuned ffuglennol Bolingbroke, Nova Scotia (yn seiliedig ar gymuned go iawn New London, Prince Edward Island), i fyw gyda Marilla a Matthew Cuthbert, brawd a chwaer yn eu pumdegau a chwedegau. Yn wreiddiol, roedd Marilla a Matthew wedi penderfynu mabwysiadu bachgen o’r cartref plant amddifad i helpu Matthew i redeg eu fferm Green Gables, sydd wedi’i lleoli yn nhref ffuglennol Avonlea (yn seiliedig ar Cavendish, Prince Edward Island). Trwy gamddealltwriaeth, mae'r cartref plant yn anfon Anne.[2]
Mae Anne yn hogan siaradus, yn enwedig o ran disgrifio ei ffantasïau a'i breuddwydion. Ar y dechrau mae Marilla lem am ddychwelyd Anne i'r cartref plant, ond ar ôl llawer o ystyriaeth mae Matthew, a Marilla yn penderfynu gadael iddi aros.
Mae Anne yn llawenhau am ei bywyd newydd ac yn addasu'n gyflym, gan ffynnu yn y pentref ffermio clos.
Mae'r llyfr yn adrodd am frwydrau a llawenydd Anne wrth ymgartrefu yn Green Gables (y cartref go iawn cyntaf iddi gael): yr ysgol wledig lle mae'n rhagori yn gyflym yn ei hastudiaethau; ei chyfeillgarwch â Diana Barry, y ferch sy'n byw drws nesaf; ei huchelgeisiau llenyddol egnïol; a'i brwydrau gyda'i chyd-ddisgybl Gilbert Blythe, sy'n ei phryfocio am ei gwallt coch.[3] Am hynny, mae'n ennill ei chasineb ar unwaith, er ei fod yn ymddiheuro sawl gwaith. Er, wrth i amser fynd heibio, mae Anne yn sylweddoli nad yw hi bellach yn casáu Gilbert, mae ei balchder a’i ystyfnigrwydd yn ei chadw rhag rhoi maddeuant iddo.
Mae'r llyfr yn dilyn anturiaethau Anne yn Avonlea. Mae'n cynnwys penodau am ei amser yn chwarae gyda'i ffrindiau Diana, pwyllog, Jane Andrews diddig a Ruby Gillis hardd, sydd wedi gwirioni ar fechgyn. Mae hi'n cael ffrae gyda'r chwiorydd Pye annymunol, Gertie a Josie. Mae hi hefyd yn cael trafferthion domestig aml fel lliwio ei gwallt yn wyrdd wrth fwriadu ei liwio'n ddu, a meddwi Diana ar ddamwain trwy roi'r hyn y mae hi'n meddwl sy'n sudd mafon iddi ond sydd mewn gwirionedd yn win cyrens.
Yn un ar bymtheg oed, mae Anne yn mynd i Academi Queen's i ennill trwydded ddysgu, ynghyd â Gilbert, Ruby, Josie, Jane, a sawl myfyriwr arall, ac eithrio Diana, er mawr siom i Anne. Mae hi'n cael ei thrwydded mewn blwyddyn yn lle'r ddwy arferol ac yn ennill yr Ysgoloriaeth Avery a ddyfarnwyd i'r myfyriwr gorau yn Saesneg. Byddai'r ysgoloriaeth hon yn caniatáu iddi ddilyn gradd Baglor yn y Celfyddydau yng Ngholeg ffuglennol Redmond (wedi'i seilio ar Brifysgol Dalhousie go iawn) ar dir mawr Nova Scotia.
Wrth i'r llyfr tynnu at ei therfyn mae trasiedi yn digwydd sy'n newid cynlluniau Anne. Mae Matthew yn marw o drawiad ar y galon ar ôl dysgu bod ei holl arian ef a Marilla wedi ei golli trwy i fanc methdalu. Allan o ymroddiad i Marilla a Green Gables, mae Anne yn rhoi’r gorau i’r ysgoloriaeth i aros gartref a helpu Marilla, sydd yn ddechrau colli ei golwg. Mae'n bwriadu dysgu yn ysgol Carmody, yr ysgol agosaf sydd ar gael, a dychwelyd i Green Gables ar benwythnosau. Mewn gweithred o gyfeillgarwch, mae Gilbert Blythe yn rhoi’r gorau i’w swydd ddysgu yn Ysgol Avonlea i weithio yn Ysgol White Sands yn lle, gan wybod bod Anne eisiau aros yn agos at Marilla ar ôl marwolaeth Matthew. Ar ôl y weithred garedig hon, mae cyfeillgarwch Anne a Gilbert yn cael ei smentio, ac mae Anne yn edrych ymlaen at yr hyn a ddaw nesaf yn ei bywyd.
Minnie May Barry: Chwaer fach Diana, y mae Anne yn achub ei bywyd pan fydd yn cael ei heintio â chrŵp.
Wedi poblogrwydd ei llyfr cyntaf, ysgrifennodd Montgomery gyfres o lyfrau olynol i barhau â stori ei harwres Anne Shirley. Fe'u rhestrir yn gronolegol isod, yn ôl oedran Anne ym mhob un o'r nofelau.
Rhif | Llyfr | Dyddiad cyhoeddi | Oedran Anne Shirley | Cyfnod y stori |
---|---|---|---|---|
1 | Anne of Green Gables | 1908 | 11–16 | 1876–1881 |
2 | Anne of Avonlea | 1909 | 16–18 | 1881–1883 |
3 | Anne of the Island | 1915 | 18–22 | 1883–1887 |
4 | Anne of Windy Poplars (Canada ac UDA)
Anne of Windy Willows (DU ac Awstralia) |
1936 | 22–25 | 1887–1890 |
5 | Anne's House of Dreams | 1917 | 25–27 | 1890–1892 |
6 | Anne of Ingleside | 1939 | 34–40 | 1899–1905 |
Mae'r llyfrau isod yn canolbwyntio ar blant Anne, neu ar ffrindiau a theulu eraill. Mae Anne yn ymddangos yn y cyfrolau hyn, ond mae'n chwarae rhan lai. | ||||
Rhif | Llyfr | Dyddiad cyhoeddi | Oed Anne Shirley | Cyfnod y stori |
7 | Rainbow Valley | 1919 | 41–43 | 1906–1908 |
8 | Rilla of Ingleside | 1921 | 49–53 | 1914–1918 |
9 | The Blythes Are Quoted | 2009 | 40–75 | 1905–1940 |
Mae Anne Shirley yn ymddangos mewn un stori (a chyfeirir ati mewn straeon eraill) ym mhob un o'r casgliadau canlynol:Anne of Green Gables | ||||
Rhif | Llyfr | Dyddiad cyhoeddi | Oed Anne Shirley | Cyfnod y stori |
— | Chronicles of Avonlea | 1912 | tua. 20 | 1885 |
— | Further Chronicles of Avonlea | 1920 | tua. 20 | 1885 |
Ysgrifennwyd y rhaghanes, Before Green Gables (2008), gan Budge Wilson gydag awdurdodiad etifeddion L. M. Montgomery.[5]