Annette Pehnt | |
---|---|
Ganwyd | 25 Gorffennaf 1967 Cwlen |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Addysg | doethuriaeth |
Galwedigaeth | academydd, llenor, beirniad llenyddol, ysgolhaig llenyddol |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Llyfr Plant Gogledd Rhine-Westfalen, Athro barddoniaeth ym Mhrifysgol Bamberg, Gwobr Thaddäus-Troll, Reinhold Schneider Prize, Gwobr Italo-Svevo, Gwobr Kranichsteiner am Lenyddiaeth |
Awdures o'r Almaen yw Annette Pehnt (ganwyd 25 Gorffennaf 1967) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel academydd, awdur a beirniad llenyddol.
Wedi iddi orffen ei haddysg yn yr ysgol yn 1986 bu Pehnt yn gwneud gwaith gwirfoddol yn Belfast ac yn dilyn hyn aeth i fyw am gyfnod i'r Alban. Astudiodd Saesneg, Astudiaethau Celtaidd ac Almaeneg mewn prifysgolion yn Köln, Galway (Iwerddon), Berkeley (Califfornia) a Freiburg (Breisgau). Derbyniodd radd meistr o Brifysgol Freiburg am waith ar lenyddiaeth Wyddelig. Ers 1992 bu'n gweithio fel beirniad llenyddol ac awdur hunangyflogedig yn Freiburg ac mae'n dysgu yn y brifysgol yno. Dyfarnwyd gwobrau iddi am ei gweithiau llenyddol yn cynnwys y Fördenpreis yn 2001, gwobr artist Northrhine-Westphalia a gwobr Mara-Cassens (2002).[1][2]
Ganwyd Annette Pehnt yn Köln ac mae'n byw yn Freiburg. Mae'n briod a chanddi dri o blant.