Annwn, Annwfn neu Annwvyn[1] (Cymraeg Canol) yw'r fersiwn Cymreig o'r Arallfyd Celtaidd. Byd paradwysaidd yw Annwn yn y traddodiad Cymreig cynnar: dim ond yn ddiweddarach y daethpwyd i'w gysylltu ag Uffern, dan ddylanwad Cristnogaeth. Mae llawer o ddeunydd y traddodiadau am Annwn yn dwyn cysylltiad â'r traddodiadau a geir yn llên gwerin Cymru am gartref arallfydol y Tylwyth Teg yn ogystal. Yn Mhedair Cainc y Mabinogi Arawn yw brenin Annwn, ond yn ddiweddarach fe'i cysylltir â Gwyn ap Nudd.
Ym mhennod agoriadol y chwedl Pwyll Pendefig Dyfed, mae Pwyll yn mynd i hela yng Nglyn Cuch, Dyfed. Mae'n llithio ei helgwn ei hun ar garw sydd eisoes wedi'i ladd gan helgwn rhyfeddol Arawn. Roeddent o liw 'claerwyn llathraidd ("disglair"), ac eu clustieu yn gochion. Ac fal y llathrai ("disgleiriai") wyned y cwn, y llathrai coched eu clustieu'.[2] Mae lliw'r helgwn yn nodweddiadol o anifeiliaid a gysylltir â'r Arallfyd Celtaidd.
Daw Arawn i'r golwg, yn marchogaeth march brychlas (erchlas) gyda 'gwisg o frethyn llwyd amdano yn wisg hela'.[3] Cwyna wrth Bwyll am fod mor anghwrtais. Disgrifia ei hun fel 'brenin coronog' yn ei deyrnas ei hun.
I wneud iawn am ei ansyberwydd (anghwrteisi) cytuna Pwyll i gyfnewid lle ag Arawn am flwyddyn. Ar ddiwedd blwyddyn o wledda a phob hyfrydwch yn y byd paradwysaidd hwnnw mae Pwyll yn ymladd yn lle Arawn â Hafgan ac yn ei drechu gan achub y deyrnas. Credai W. J. Gruffydd fod Hafgan yn ymrithiad arall o Arawn ei hun.[4] Er bod Arawn wedi rhoi ei bryd a'i wedd ei hun i Bwyll, arosodd Pwyll yn ffyddlon ac ni chafodd gyfathrach â gwraig Arawn, er iddynt gysgu yn yr un gwely ac iddi ymbil arno a chwyno am ei ddiethrwch. Am fod Pwyll wedi ymddwyn mor gwrtais a bonheddig ac wedi trechu Hafgan hefyd, mae'n ennill cyfeillgarwch Arawn.
Ar ôl dychwelyd i'w deyrnas, cyfeirir at Bwyll fel 'Pwyll Pen Annwfn'. Er mwyn diolch i Bwyll mae Arawn yn rhoi anrheg o foch arbennig iddo; dyma'r moch hud mae Gwydion yn dwyn o lys Pryderi yn y Bedwaredd Gainc.
Efallai fod chwedloniaeth y tymhorau, gyda brenin yr haf yn mynd dan y ddaear yn y gaeaf, yn rhan o gefndir y chwedl. Sylwer nad oes cysylltiad amlwg rhwng y Cwn Annwn a geir mewn chwedlau gwerin diweddarach a helgwn Arawn yn y Pedair Cainc; ni chysylltir enw Arawn â Chwn Annwn chwaith.
Deil Pierre-Yves Lambert[5] fod y gair annw(f)n yn gyfuniad o ddwy elfen, sef *dubnos ‘dwfn, byd’ a'r rhagddodiad *ande- ‘dan, oddi tan’. Ystyr lythrennol y gair yw ‘isfyd’ felly, h.y. arallfyd.[6] Mae'n enw addas am fod Annwn yn cyffwrdd â'r byd hwn ac eto mae ar wahân.
Ni cheir disgrifiad o daith Pwyll i Annwn yn y chwedl. Ond ym mytholeg a thraddodiadau Cymru ac Iwerddon mae'r arallfyd yn bodoli mewn dwy ffurf wahanol.
Mewn rhai chwedlau, e.e. Mordaith Brân (Immram Brain), mae'r arallfyd yn ynys neu ynysoedd a leolir yn y môr yn y gorllewin pell. Yn y gerdd 'Preiddiau Annwfn' yn Llyfr Taliesin, mae Arthur a'i wŷr yn anturio dros y môr yn y llong Prydwen i geisio Pair Annwn.
Mewn ffynonellau eraill mae'n wlad baradwysaidd dan y ddaear. Cyfeiria Dafydd ap Gwilym at ffau'r llwynog fel '[t]ŷ annedd hyd Annwn', er enghraifft. Mewn cerdd arall dywedir fod yr Haf yn cilio i Annwn pan ddaw'r Gaeaf.[7] Yn aml iawn mae'r Tylwyth Teg yn byw mewn sidh neu dwmpath arbennig.
Mae'n bwysig sylwi nid yw Annwn a'r arallfyd Celtaidd fyth yn cynrychioli Uffern na chartref eneidiau'r meirw chwaith, ond y gwrthwyneb: byd dedwydd a llon yw Arawn gyda gwledda trwy'r flwyddyn a phob dim yn hafaidd a ffrwythlon ynddo. Ond Cristioneiddwyd Annwn yn ddiweddarach a'i gysylltu â byd y meirw, Uffern a'r Helfa Gwyllt (Cŵn Annwn) brawychus.