Anuna De Wever

Anuna De Wever
Ganwyd16 Mehefin 2001 Edit this on Wikidata
Mortsel Edit this on Wikidata
Man preswylMortsel, Berchem Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gwlad Belg Gwlad Belg
Alma mater
  • Koninklijk Atheneum Mortsel Edit this on Wikidata
Galwedigaethymgyrchydd hinsawdd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amNi yw'r hinsawdd Edit this on Wikidata
MudiadAmgylcheddaeth Edit this on Wikidata
TadHardwin De Wever Edit this on Wikidata
MamKatrien Van der Heyden Edit this on Wikidata

Mae Anuna De Wever (ganwyd 16 Mehefin 2001) yn ymgyrchydd hinsawdd yng Ngwlad Belg ac roedd yn un o'r bobl mwyaf blaenllaw yn streic y mudiad hinsawdd Fridays for Future (Gwener y Dyfodol) yng Ngwlad Belg. Mae De Wever yn nodi ei bod yn anneuaidd ac yn defnyddio'r rhagenw "hi".[1]

Magwraeth ac ysgol

[golygu | golygu cod]

Ganwyd De Wever ym Mortsel, Gwlad Belg. Gyda Kyra Gantois ac Adélaïde Charlier, daeth De Wever yn un o ffigurau mwyaf blaenllaw streic ysgolion y wlad dros weithredu i atal newid hinsawdd.[2] O ganlyniad, o Chwefror i Fai 2019 roedd ganddi golofn wythnosol yn y cylchgrawn HUMO.

Yn dilyn y streiciau ysgol yng Ngwlad Belg roedd yn rhaid i'r gweinidog Fflemaidd Joke Schauvliege ymddiswyddo ar ôl honni ar gam fod gan Wasanaeth Diogelwch Gwladwriaeth Gwlad Belg wybodaeth yn nodi bod y streic hinsawdd yn sefydliad peryglys, gwleidyddol.[3][4]

Ymgyrchu

[golygu | golygu cod]

Arweiniodd gwahaniaethau personol at ageniad o fewn mudiad Ieuenctid dros Hinsawdd Gwlad Belg, gydag ymadawiad y cyd-sylfaenydd Kyra Gantois yn Awst 2019.[5]

Ymddangosodd De Wever yng ngŵyl gerddoriaeth Pukkelpop 2019 pan geisiodd ennyn diddordeb y gynulleidfa i dynnu sylw at faterion yr hinsawdd. Roedd yr alwad hon wedi gwylltio rhai o wylwyr a ddechreuodd aflonyddu ar ei grŵp o ymgyrchwyr, yn hyrddio poteli o wrin atynt, ac yn eu dilyn yn ôl i'w maes pebyll, yn gan fygwth eu lladd; dinistrwyd eu pabell nes i'r cwmni diogelwch ymyrryd.[6] Oherwydd bod yr ymosodwyr wedi bod yn cario amrywiad o Faner Fflandrys a oedd yn cael ei ffafrio gan elfennau de pellaf y Mudiad Fflandrys, gwaharddodd y trefnwyr faneri o'r digwyddiad, gan atafaelu 20 ohonyn nhw.[7][8]

Yn Hydref 2019, hwyliodd De Wever gydag ymgyrchwyr yn erbyn newid hinsawdd ifanc eraill ar y Regina Maris ar gyfer taith draws-Iwerydd carbon isel i Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2019 yn Santiago, Chile.[9]

Yn Chwefror 2020, ar ôl dychwelyd o Dde America, cawsant abrofiad gwaith gyda'r Gynghrair Rydd Gwyrddion-Ewropeaidd yn Senedd Ewrop, heb ddod yn aelod o'r blaid.[10]

Gwobrau

[golygu | golygu cod]
  • Yn Mai 2019, derbyniodd De Wever a Kyra Gantois Wobr Ark Prize of the Free Word.[11]
  • Ym Medi 2019, derbyniodd De Wever ac Adélaïde Charlier Wobr Llysgennad Cydwybod Amnest Rhyngwladol Gwlad Belg ar ran Youth for Climate.[12]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "A Huge Climate Change Movement Led By Teenage Girls Is Sweeping Europe. And It's Coming To The US Next". BuzzFeed News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-20.
  2. "Belgium climate protests". BBC News. 2019-01-31. Cyrchwyd 2019-06-25.
  3. Daniel Boffey (5 Chwefror 2019). "Belgian minister resigns over school-strike conspiracy claims". The Guardian.
  4. "Belgian minister Schauvliege resigns over 'school protest plot'". BBC News. 2019-02-06. Cyrchwyd 2019-06-25.
  5. Eline Bergmans (26 Awst 2019). "'Het boterde al maanden niet meer tussen Anuna en mij'". De Standaard.
  6. "Anuna De Wever harassed and threatened with death at Pukkelpop". The Brussels Times. 16 Awst 2019.
  7. Amber Janssens; Rik Arnoudt (16 Awst 2019). "Pukkelpop onderzoekt incident op camping na klimaatactie met Anuna De Wever". VRT Nieuws.
  8. Michaël Torfs (17 Awst 2019). "Climate activist Anuna De Wever targeted in Pukkelpop incident, "black" Flemish lion flags seized". VRT Nieuws.
  9. Jennifer Rankin (2 Hydref 2019). "Activists set sail across the Atlantic to Chile to demand curbs on flying". The Guardian.
  10. "Anuna De Wever loopt stage bij Europese groenen: "Het is de link tussen het straatprotest en de seat at the table"". Het Laatste Nieuws.
  11. "Anuna De Wever en Kyra Gantois ontvangen Arkprijs". Het Nieuwsblad. 30 Mai 2019.
  12. "The voices of Brussels' Global Climate strike". The Brussels Times. 23 Medi 2019.