Enghraifft o'r canlynol | taith ofod gyda phobol, lloeren |
---|---|
Màs | 44,576 cilogram, 4,945 cilogram |
Rhan o | Rhaglen Apollo |
Rhagflaenwyd gan | Apollo 9 |
Olynwyd gan | Apollo 11 |
Gweithredwr | NASA |
Hyd | 691,403 eiliad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Apollo 10 oedd y bedwaredd daith i ddyn yn y rhaglen Apollo Americanaidd. Paratoi'r tir ar gyfer taith Apollo 11 oedd ei bwrpas mewn gwirionedd, gan brofi gweithdrefnau a chynlluniau glanio ar y lleuad, a hynny heb lanio. Dyma'r ail griw o ofodwyr i gylchdroi'r lleuad mewn roced a daeth o fewn i 8.4 milltir (15.6 km) o wyneb y lleuad fel rhan o'r ymarfer.
Yn ôl rhifyn 2001 o lyfr Guinness World Records, gan Apollo 10 mae'r record am gyflymder uchaf unrhyw gerbyd gofod gyda dyn arno, sef cyflymder o 39,897 km/awr (11.08 km/eiliad neu 24,791 mpya) ar ei daith yn ôl o'r lleuad ar 26 Mai 1969.