Aran Benllyn

Aran Benllyn
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr885 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.80406°N 3.68182°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH8672324273 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd50 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaAran Fawddwy Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Mynydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd yw Aran Benllyn.

Uchder

[golygu | golygu cod]

Saif ychydig i'r gogledd o Aran Fawddwy, sydd ychydig yn uwch, 905 medr o uchder, ac i'r de o bentref Llanuwchllyn. Aran Fawddwy yw'r copa mwyaf gogleddol ar y grib sy'n rhedeg tua'r de-orllewin o gyffiniau Llanuwchllyn tua Dolgellau, sydd hefyd yn cynnwys Aran Fawddwy ac yna'n parhau tua'r gorllewin fel Cadair Idris, gyda Bwlch Oerddrws yn gorwedd rhwng dwy ran y gadwyn; cyfeiriad grid SH867243. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 835metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 885m (2904tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Mawrth 2010.

Llwybrau

[golygu | golygu cod]

Gellir ei ddringo ar hyd llwybr sy'n dechrau gerllaw Llanuwchllyn. Ar un adeg bu cryn ddadlau ynglŷn â mynediad yn yr ardal yma, ond erbyn hyn cytunwyd ar lwybr, er nad yw'n llwybr cyhoeddus yn swyddogol. Caiff ei enw oherwydd nad yw ymhell o ben Llyn Tegid, yn ardal Penllyn.

Chwedlau

[golygu | golygu cod]

Cysylltir Rhita Gawr a'r mynydd. Mewn traethawd ar gewri Cymru gan Siôn Dafydd Rhys a ysgrifennodd ar ddiwedd yr 16g, dywedir i Rhita gael ei gladdu ar ben Aran Benllyn ar ôl cael ei ladd gan Arthur.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]