Cyfres o arbrofion seicoleg gymdeithasol a gynhaliwyd gan Stanley Milgram, seicolegydd ym Mhrifysgol Yale, yn y chwedegau cynnar oedd arbrawf Milgram ar ufudd-dod i ffigurau awdurdod. Roedd yn mesur parodrwydd y cyfranogwyr, sef dynion o ystod amrywiol o alwedigaethau gyda lefelau amrywiol o addysg, i ufuddhau i ffigur awdurdod a oedd yn eu cyfarwyddo i gyflawni gweithredoedd a oedd yn gwrthdaro â'u cydwybod bersonol. Arweiniwyd y cyfranogwyr i gredu eu bod yn cynorthwyo gydag arbrawf gwahanol, lle roedd rhaid iddynt roi siociau trydan i "ddysgwr". Cynyddodd cryfder y siociau trydan ffug hyn yn raddol i lefelau a fyddai wedi bod yn angheuol pe baent wedi bod yn real.[1][2]
Canfu'r arbrawf, yn annisgwyl, y byddai cyfran uchel iawn o ddynion yn ufuddhau i'r cyfarwyddiadau, er yn anfoddog. Disgrifiodd Milgram ei ymchwil mewn erthygl yn 1963 yn y Journal of Abnormal and Social Psychology [3] a thrafododd ei ganfyddiadau yn fanylach yn ei lyfr a gyhoeddwyd yn 1974, Obedience to Authority: An Experimental View . [4]
Dechreuodd yr arbrofion ym mis Gorffennaf 1961, ar lawr isaf Neuadd Linsly-Chittenden ym Mhrifysgol Yale,[5] dri mis ar ôl dechrau achos troseddol Adolf Eichmann, troseddwr rhyfel Natsïaidd yn Jerwsalem. Dyfeisiodd Milgram ei astudiaeth seicolegol i ateb y cwestiwn cyfoes poblogaidd: "Ai dilyn gorchmynion yn unig oedd Eichmann a'i filiwn o gyd-droseddwyr yn yr Holocost? Allen ni ddweud mai cynorthwywyr i'r troseddau oedden nhw i gyd?"[6] Ailadroddwyd yr arbrawf sawl gwaith o amgylch y byd, gyda chanlyniadau eithaf cyson.[7]
Roedd tri unigolyn yn cymryd rhan ym mhob sesiwn yn yr arbrawf:
Byddai gwrthrych yr arbrawf a'r actor yn cyrraedd y sesiwn gyda'i gilydd. Byddai'r arbrofwr yn dweud wrthynt eu bod yn cymryd rhan mewn "astudiaeth wyddonol o gof a dysgu" i weld beth yw effaith cosb ar allu gwrthrych i gofio cynnwys. Hefyd, byddai'n egluro bob amser fod y taliad am eu cyfranogiad yn yr arbrawf wedi'i sicrhau sut bynnag y byddai'n datblygu. Byddai'r gwrthrych a'r actor yn tynnu slipiau papur i benderfynu ar eu rolau. Heb yn wybod i'r gwrthrych, "athro" oedd y gair ar y ddau slip. Byddai'r actor bob amser yn honni mai "dysgwr" oedd ar ei slip yntau, gan sicrhau y byddai'r gwrthrych bob amser yn "athro".
Nesaf, byddai'r athro a'r dysgwr yn cael eu tywys i ystafell gyfagos lle byddai'r dysgwr yn cael ei glymu i mewn i'r hyn oedd yn ymddangos fel cadair drydan. Byddai'r arbrofwr yn dweud wrth y cyfranogwyr bod hyn er mwyn sicrhau na fyddai'r dysgwr yn dianc.[3] Mewn amrywiad diweddarach o'r arbrawf, byddai'r cynorthwy-ydd yn sôn wrth y cyfranogwr bod ganddo gyflwr ar y galon. Ar ryw adeg cyn y prawf ei hun, byddai sioc drydanol o'r cynhyrchydd sioc yn cael ei roi i'r athro er mwyn iddo gael profiad uniongyrchol o'r sioc y byddai'r dysgwr yn ei gael yn ystod yr arbrawf.
Yna, byddai'r athro a'r dysgwr yn cael eu gwahanu fel eu bod yn gallu cyfathrebu, ond heb weld ei gilydd. Yna, byddai parau o eiriau'n cael eu rhoi i'r athro i'w dysgu i'r dysgwr. Byddai'r athro'n dechrau darllen y rhestr o barau geiriau i'r dysgwr. Byddai'r athro wedyn yn darllen gair cyntaf pob pâr ac yn darllen pedwar ateb posibl. Byddai'r dysgwr yn pwyso botwm i ddangos ei ymateb. Petai'r ateb yn anghywir, byddai'r athro'n rhoi sioc i'r dysgwr, gyda'r foltedd yn cynyddu fesul 15 folt am bob ateb anghywir. Petai'r ateb yn gywir, byddai'r athro'n darllen y pâr geiriau nesaf.[3]
Roedd y gwrthrychau'n credu bod y dysgwr yn cael sioc go iawn am bob ateb anghywir. Mewn gwirionedd, doedd dim sioc yn cael ei rhoi. Ar ôl i'r dysgwr gael ei wahanu oddi wrth yr athro, gosodai'r dysgwr recordydd tâp oedd wedi'i integreiddio â'r cynhyrchydd sioc drydanol, a byddai hwnnw'n chwarae synau wedi'u recordio ar gyfer pob lefel o sioc. Wrth i foltedd y sioc ffug gynyddu, dechreuai'r dysgwr brotestio, drwy curo dro ar ôl tro ar y wal oedd yn ei wahanu oddi wrth yr athro, er enghraifft. Wrth gyrraedd y folteddau uchaf, byddai'r dysgwr yn mynd yn dawel.[3]
Petai athro'n mynegi dymuniad i atal yr arbrawf ar unrhyw adeg, roedd yr arbrofwr wedi cael cyfarwyddyd i roi prociau llafar penodol. Yn y drefn ganlynol, y prociau oedd:[3]
Petai'r gwrthrych yn dal i ddymuno stopio ar ôl pob un o'r pedwar proc geiriol, byddai'r arbrawf yn cael ei atal. Fel arall, byddai'n cael ei atal ar ôl i'r gwrthrych roi'r sioc fwyaf, sef 450 folt, dair gwaith yn olynol.[3]
Roedd gan yr arbrofwr hefyd brociau i'w defnyddio pe bai'r athro'n gwneud sylwadau penodol. Pe gofynnai'r athro a allai'r dysgwr ddioddef niwed corfforol parhaol, atebai'r arbrofwr, "Er y gall y siociau fod yn boenus, does dim difrod meinwe parhaol, felly daliwch ati". Pe bai'r athro'n dweud bod y dysgwr yn amlwg eisiau rhoi'r gorau iddi, byddai'r arbrofwr yn ateb, "P'un a yw'r dysgwr yn ei hoffi ai peidio, mae'n rhaid i chi ddal ati nes iddo ddysgu'r holl barau geiriau'n gywir, felly daliwch ati." [3]
Cyn cynnal yr arbrawf, gofynnodd Milgram i bedwar ar ddeg o fyfyrwyr seicoleg blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Yale ragweld ymddygiad 100 o athrawon damcaniaethol. Credai holl ymatebwyr y bleidlais mai dim ond ffracsiwn bach iawn o athrawon (roedd yr ystod o sero i 3 allan o 100, gyda chyfartaledd o 1.2) fyddai'n barod i roi'r sioc drydan fwyaf. Fe wnaeth Milgram hefyd holi ei gydweithwyr yn anffurfiol a chael eu bod nhw, hefyd, yn credu mai ychydig iawn o wrthrychau fyddai'n mynd y tu hwnt i sioc gref iawn.[3] Cysylltodd hefyd â Chaim Homnick, un o raddedigion Prifysgol Harvard, a nododd na fyddai'r arbrawf hwn yn dystiolaeth bendant o ddieuogrwydd y Natsïaid, oherwydd bod "pobl dlawd yn fwy tebygol o gydymffurfio". Hefyd, holodd Milgram ddeugain o seiciatryddion o ysgol feddygol, a chredent y byddai'r rhan fwyaf o wrthrychau'n atal yr arbrawf erbyn y ddegfed sioc, pan fyddai'r dioddefwr yn mynnu cael dod yn rhydd. Erbyn y sioc 300 folt, pan oedd y dioddefwr yn gwrthod ateb, roeddent yn rhagweld mai dim ond 3.73 y cant o'r gwrthrychau fyddai'n dal i barhau, ac roeddent yn credu mai "dim ond ychydig dros un rhan o ddeg o un y cant o'r gwrthrychau fyddai'n rhoi'r sioc uchaf ar y bwrdd. " [8]
Yn set gyntaf Milgram o arbrofion, rhoddodd 65 y cant (26 o 40) o gyfranogwyr yr arbrawf y sioc enfawr 450 folt,[3] ac fe wnaeth pob un roi siociau oedd o leiaf 300 folt. Roedd y gwrthrychau'n anghyfforddus yn gwneud hynny, ac yn dangos graddau amrywiol o densiwn a straen. Roedd yr arwyddion hyn yn cynnwys chwysu, crynu, cecian, brathu eu gwefusau, griddfan, a chloddio eu hewinedd i'w croen, ac roedd rhai hyd yn oed yn cael ffitiau o chwerthin nerfus.[3] Fe wnaeth pob cyfranogwr oedi'r arbrawf o leiaf unwaith i'w gwestiynu. Parhaodd y rhan fwyaf gyda'r arbrawf ar ôl cael sicrwydd gan yr arbrofwr. Dywedodd rhai y byddent yn ad-dalu'r arian a dalwyd iddynt am gymryd rhan.
Crynhodd Milgram yr arbrawf yn ei erthygl yn 1974, "The Perils of Obedience", gan ysgrifennu (yn Saesneg):
The legal and philosophic aspects of obedience are of enormous importance, but they say very little about how most people behave in concrete situations. I set up a simple experiment at Yale University to test how much pain an ordinary citizen would inflict on another person simply because he was ordered to by an experimental scientist. Stark authority was pitted against the subjects' strongest moral imperatives against hurting others, and, with the subjects' [participants'] ears ringing with the screams of the victims, authority won more often than not. The extreme willingness of adults to go to almost any lengths on the command of an authority constitutes the chief finding of the study and the fact most urgently demanding explanation.
Ordinary people, simply doing their jobs, and without any particular hostility on their part, can become agents in a terrible destructive process. Moreover, even when the destructive effects of their work become patently clear, and they are asked to carry out actions incompatible with fundamental standards of morality, relatively few people have the resources needed to resist authority.[9]
Mae'r cynhyrchydd sioc ffug a'r cofnodwr digwyddiadau gwreiddiol, neu'r blwch sioc, wedi ei gadw yn Archifau Hanes Seicoleg America.
Ysgogodd Milgram ymateb beirniadol uniongyrchol yn y gymuned wyddonol drwy honni bod "proses seicolegol gyffredin yn rhan ganolog o ddigwyddiadau arbrofion y labordy a'r Almaen Natsïaidd". Roedd James Waller, Cadeirydd Astudiaethau Hil-laddiad a'r Holocost yng Ngholeg Keene, a oedd hefyd yn gyn-Gadeirydd Adran Seicoleg Coleg Whitworth, o'r farn nad oedd arbrofion Milgram yn cyfateb yn dda i ddigwyddiadau'r Holocost:[10]
Cyflwynodd Milgram ddwy ddamcaniaeth: