Math | ardal an-fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Caint |
Prifddinas | Sevenoaks |
Poblogaeth | 121,106 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caint (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 369.2308 km² |
Cyfesurynnau | 51.27°N 0.193°E |
Cod SYG | E07000111 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Sevenoaks District Council |
Ardal an-fetropolitan yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, yw Ardal Sevenoaks (Saesneg: Sevenoaks District).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 369 km², gyda 120,293 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Dartford i'r gogledd, Bwrdeistref Tonbridge a Malling a Bwrdeistref Tunbridge Wells i'r dwyrain, Dwyrain Sussex i'r de, a Surrey a Llundain Fwyaf i'r gorllewin.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir yr ardal yn 32 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Sevenoaks. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Edenbridge, Swanley a Westerham.