Enghraifft o'r canlynol | teitl bonheddig, courtesy title, gwobr |
---|---|
Math | seigneur |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Uchelwr a'i safle rhwng dug ac iarll yw ardalydd[1] neu weithiau marcwis (Saesneg: Marquess). Gelwir ei wraig yn ardalyddes.
Ystyr y teitl yn y Gymraeg yw swyddog neu uchelwr sydd a'r cyfrifoldeb i amddiffyn ardal arbennig. Mae'r teitl i'w cael ym Mrut y Tywysogion [1][2]. Mae'r teitl yn Saesneg yn tarddu o'r un gwreiddyn a'r term mers (ffin / march yn Saesneg). Y gwahaniaeth tybiedig yn y bendefigaeth Ewropeaidd yw bod Cownt (teitl sydd ddim ar gael ym mhendefigaeth Lloegr) yn gyfrifol am weinyddu comte (ardal gweinyddol) a bod Marcwis yn gyfrifol am amddiffyn ei ffiniau. Er hynny nid oedd Arglwyddi'r Mers yn defnyddio'r teitl Ardalydd.
William Salesbury yn ei eiriadur A Dictionary in Englyshe and Welshe (1547) oedd y cyntaf i ddefnyddio'r hen deitl Cymraeg Ardalydd fel cyfieithiad o'r teitl Saesneg Marquess.[1]
Tri ardalydd sydd a'u teitlau yn deillio o Gymru:
Yn ôl arfer parch pendefig dylid cyfeirio at Ardalydd fel Y Mwyaf Anrhydeddus a'i chyfarch fel Eich Anrhydedd Fwyaf [6]
|deadurl=
ignored (help)