Tarian ddu gyda chwe stribyn gwyn tonnog i gynrychioli Rhaeadr Victoria, a gynhelir gan ddyn ar y chwith a menyw ar y dde yw arfbais Sambia. Ar ben y darian mae caib ac hof wedi eu croesi, i gynrychioli amaeth a diwydiant, a physgeryr Affricanaidd aur yn symbol o ryddid. Saif y cynheiliaid ar fownt o dir gyda mwynglawdd, sebra, ac indrawn ac oddi tanddo sgrôl yn dwyn yr arwyddair cenedlaethol: One Zambia, One Nation.[1]
Ymddangosir yr eryr hefyd ar faner Sambia.