Arthur's Pass

Arthur's Pass
Mathardal boblog Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlArthur Dudley Dobson Edit this on Wikidata
Poblogaeth48, 50 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSelwyn District Edit this on Wikidata
GwladSeland Newydd Edit this on Wikidata
Arwynebedd0.6 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr739 metr, 745 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.946°S 171.565°E Edit this on Wikidata
Cod post7654 Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddSouthern Alps / Kā Tiritiri o te Moana Edit this on Wikidata
Map

Mae Arthur's Pass, sy'n 920 medr o uchelder, yn croesi Alpau'r De ar Ynys y De, Seland Newydd.

Lleoliad

[golygu | golygu cod]
Cofeb Arthur Dudley Dobson

Mae'r Bwlch yn 140 cilomedr o Christchurch a 95 cilomedr o Greymouth ar Ffordd Genedlaethol 73, rhwng dyffrynnoedd Afon Otira i'r gorllewin ac Afon Bealey i'r dwyrain. Enwir y Bwlch ar ôl Syr Arthur Dudley Dobson (1841–1934), a arweiniodd y grŵp cyntaf o bobl Ewropeaidd ar ei draws o ym 1864. Roedd Dobson wedi clywed bod y bwlch wedi cael ei ddefnyddio'n achlysurol gan grwpiau o helwyr o'r arfordir gorllewinol. Credir hefyd bod yr awdur ac archwiliwr Samuel Butler wedi gweld y bwlch ond erioed wedi'i ddefnyddio.

Mae Rheilffordd Seland Newydd y Canoldir yn croesi'r Alpau yma hefyd, trwy dwnnel Otira, 8.5 cilomedr o hyd. Agorwyd y twnnel ym 1923. Ystirir llwybr y trên 'Tranzalpine' o Christchurch i Greymouth fel un o'r rhai mwyaf trawiadol yn y byd. Defnyddir y lein hefyd ar gyfer cludo glo o byllau'r arfordir gorllewinol.

Pentref Arthur's Pass

[golygu | golygu cod]

Mae yna hefyd bentref o'r un enw a'r bwlch, sydd â phoblogaeth o 54. Yn ychwanegol, mae gan 59 o bobl batch yn y pentref. Sefydlwyd y pentref, o'r enw 'Bealey Flat Settlement' ar y pryd, ym 1906 ar gyfer gweithwyr ar dwnnel Otira. Caewyd yr ysgol lleol yn 2003.

Parc Cenedlaethol

[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Parc Genedlaethol Bwlch Arthur ym 1929, trydydd parc cenedlaethol Seland Newydd.[1][2]

Bywyd gwyllt

[golygu | golygu cod]

Gwelir y Kea yn aml iawn yn yr ardal. Yr unig barot alpaidd yn y byd, mae'n hapus i gymryd tameidiau o fwyd oddi wrth twristiaid. Mae ganddo natur chwaraegar, ac yn mwynhau cnoi darnau rwber oddi ar geir. Adar eraill a welir yma yw'r Kiwi, Morepork, Tui, Weka, Kaka ac Aderyn Cloch, ac ymysg adar o dramor, ji-binc, llinos werdd, nico a drudwy. Mae Dryw y Carreg yn gyffredin yn yr ucheldir o gwmpas Bwlch Arthur.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. http://www.nzhistory.net.nz/timeline&new_date=12/3 Article on Arthur's Pass on NZ History website; accessed 1 January 2010
  2. Reed, A. W. (2010). Peter Dowling (gol.). Place Names of New Zealand. Rosedale, North Shore: Raupo. t. 31. ISBN 978-0-14-320410-7. |access-date= requires |url= (help)