Arthur Adamov | |
---|---|
Ganwyd | 23 Awst 1908 Kislovodsk |
Bu farw | 15 Mawrth 1970 o gorddos o gyffuriau Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, llenor, rhyddieithwr, cyfieithydd, actor, dramodydd radio |
Priod | Jacqueline Autrusseau |
Dramodydd Ffrengig a anwyd yn Rwsia oedd Arthur Adamov (23 Awst 1908 - 16 Mawrth 1970). Un o awduron mwyaf amlwg Theatr yr Absẃrd oedd ef.[1][2]
Ganwyd Adamov i deulu cyfoethog o Armenia yn Kislovodsk. Pan oedd yn bedair oed, symudodd gyda'i deulu i'r Almaen. Ar ôl cwblhau ei addysg ym Mharis, ymgartrefodd yno ym 1924 a daeth yn rhan o grwpiau swrealaeth, gan olygu eu cylchgrawn Discontinuite ac ysgrifennu barddoniaeth. Ym 1938 cafodd chwalfa nerfol. Mae'r niwrosisau a oedd wedi eu plagio ers plentyndod ac a oedd i lunio'r ysbrydoliaeth fisâr ar gyfer llawer o'i ddramâu yn cael eu trin yn ei waith cyfaddefol L 'Aveu (1946).[3]
Dechreuodd Adamov ysgrifennu ar gyfer y theatr ym 1947. Ceisiodd fynegi unigrwydd a diymadferthedd dyn ac oferedd unrhyw ymgais i chwilio am ystyr bywyd. Yn La Parodie, a berfformiwyd gyntaf yn y 1950au cynnar, mae'r cymeriadau canolog yn peledu ei gilydd gyda chwestiynau am amser, o flaen cefndir o gloc heb ddwylo. Mae L'Invasion (1950), La grande et la petite maneuver (1950), Tous contre sous (1953), a Le Professeur Taranne (1953) yn dehongli mewn delweddau hunllefus creulondeb a phwysau confensiynau cymdeithasol ac yn dangos dylanwad trwm Theatr Greulondeb Antonin Artaud.[4]
Yng nghanol y 1950au trodd Adamov i arddull ddrama fwy gwleidyddol, gan ddechrau gyda'i ddrama fwyaf adnabyddus, Le Ping-Pong (1955). Mae delwedd ganolog y ddrama, peiriant pêl-pin mewn arcêd, yn symbol o'r system gyfalafol lle mae dynion yn barod i chware gêm siawns yn ddiddiwedd yn yr obaith o ennill, er bod ennill yn gwbl ddiwerth. Ar ôl Paolo Paoli (1957) daeth dramâu Adamov yn gynyddol radical: mae Le Printemps 71 (1961) am Gomiwn Paris; La Politique des restes (1963) a Off Limits (1969) yn llawn o bropaganda Marcsaidd.[5]
Cyflawnodd Adamov hunanladdiad ym 1970. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Cimetière Parisien d'Ivry, Paris.[6]
Roedd ei wraig, Jacqueline Autrusseau, yn newyddiadurwr a seicdreiddydd Ffrengig, a anwyd 5 Chwefror, 1922 a bu farw Ionawr 14, 2004 yn Villejuif yn y Val-de-Marne. Hi oedd ysgrifennydd golygyddol y cylchgrawn "Institut français de psychanalyse".