Arthur Symons | |
---|---|
Ganwyd | 28 Chwefror 1865 Aberdaugleddau |
Bu farw | 22 Ionawr 1945 Wittersham |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, beirniad llenyddol, cyfieithydd, hanesydd celf |
llofnod | |
Roedd Arthur William Symons (28 Chwefror 1865 – 22 Ionawr 1945), yn fardd, feirniad a golygydd cylchgronau.
Ganwyd Symons yn Aberdaugleddau, Cymru, i rieni Cernyweg, cafodd ei addysgu yn breifat a treuliodd tipyn o'i amser yn Ffrainc a'r Eidal. Ym 1884-1886, fe olygodd pedwar cyfrol Shakespeare Quarto Facsimiles gan Bernard Quaritch, ac ym 1888-1889 golygodd saith drama o Shakespeare "Henry Irving". Daeth yn aelod o staff Athenaeum ym 1891, ag o'r Saturday Review ym 1894, ond ei lwyddiant golygyddol mwyaf oedd ei waith tymor byr gyda'r Savoy.
Roedd ei gyfrol cyntaf o farddoniaeth, Days and Nights (1889), yn cynnwys ymsonau dramatig. Roedd ei farddoniaeth hwyrach wedi ei ddylanwadu gan astudiaeth drylwyr o ysgrifenwyr cyfoes Ffrengig, gan Charles Baudelaire, ac yn enwedig Paul Verlaine. Mae ei waith yn adlewyrchu tueddiadau Ffrengig yn nhestunau ag yn arddull ei farddoniaeth, trwy eu erotiaeth a'u disgrifiadau llachar. Cyfrannodd Symons darnau o farddoniaeth a thraethodau i The Yellow Book, gan gynnwys darn pwysig a ychwanegwyd ato'n hwyrach i greu The Symbolist Movement in Literature, a fyddai wedi fod yn dylanwad syfrdanol ar William Butler Yeats a T. S. Eliot. O 1895 hyd at 1896 bu Symons yn golygu, gyda Aubrey Beardsley a Leonard Smithers, The Savoy, a oedd yn gylchgrawn llenyddiaeth oedd yn cyhoeddi celf a llenyddiaeth. Mae rhai cyfrannwyr nodedig yn cynnwys Yeats, George Bernard Shaw, a Joseph Conrad. Roedd Symons hefyd yn aelod o'r Rhymer's Club a sefydlwyd gan Yeats ym 1890.
Ym 1892 cafodd, The Minister's Call, drama cyntaf Symons, ei gynhyrchu gan the Independent Theatre Society - clwb breifat - er mwyn osgoi sensoriaeth gan Lord Chamberlain's Office.
Ym 1902, wnaeth Symons casgliad o'i waith cynt, a'u cyhoeddi o dan y teitl Poems. Cyfieithodd gwaith Gabriele D'Annunzio The Dead City (1900) a The Child of Pleasure (1898) o Eidaleg, o Ffrangeg fe gyfieithodd gwaith Emile Verhaeren The Dawn (1898). Rhoddodd traethawd The Poems of Ernest Dowson (1905) i'r bardd diweddar, a oedd yn rhyw fath o Verlaine Seisnig a oedd yn cynnig nifer o atyniadau i Symons. Ym 1909 dioddefodd Symons o waeledd seicotig, o ganlyniad i hyn ni gyhoeddodd llawer o waith o gwbwl am gyfnod o tua ugain mlynedd. Roedd ei waith Confessions: A Study in Pathology (1930) yn ddisgrifiad o'i waeledd seicotig a'i driniaeth.
Ym 1918 cyhoeddodd cylchgrawn Vanity Fair draethawd Baudelarian Symons, "The Gateway to an Artificial Paradise: The Effects of Hashish and Opiwm Compared". Ar un adeg rhwng 1889 a 1895, roedd John Addington Symonds, Ernest Dowson a, "some of Symons’ lady friends from the ballet all tried hashish during an afternoon tea given by Symons in his rooms at Fountain Court."