Enghraifft o: | safle archaeolegol ![]() |
---|---|
![]() |
Safle archaeolegol yn Jibwti yw Asa Koma (sy'n golygu "Bryn Coch").
Mae Asa Koma yn ardal llyn mewndirol ar Wastadedd Gobaad. Mae crochenwaith sy'n dyddio o'r cyfnod cyn yr 2il fileniwm CC, sef yn Oes Newydd y Cerrig, wedi ei darganfod ar y safle. Nodweddir y crochenwaith hwnnw gan batrymau geometrig sy'n debyg i'r patrymau a geir ar grochenwaith Cyfnod 1 y Diwylliant Sabir o Ma'layba yn Ne Arabia.[1] Yn ogystal, darganfuwyd yno waith ceramig tebyg i grochenwaith o Sihi ar arfordir Sawdi Arabia a Subr ger arfordir Iemen.[2]
Mae esgyrn gwartheg cyrn-hir wedi eu darganfod yn Asa Koma hefyd, sy'n awgrymu bu gwartheg dof yn bresennol yn yr ardal hon o Jibwti tua 3,500 mlynedd yn ôl.[3]