Math | asana |
---|
Math o asana, neu osgo'r corff o fewn ioga yw asanas sefyll lle cedwir un neu ddwy droed ar y ddaear, a'r corff fwy neu lai yn syth. Maent ymhlith nodweddion mwyaf nodedig ioga modern, fel ymarfer corff. Hyd at yr 20g ychydig iawn o'r rhain oedd, a'r enghraifft orau yw Vrikshasana, "Y Goeden". O amser Krishnamacharya yn Mysore, mae llawer o asanas sefyll wedi'u creu bellach. Ceir dau fath o asana: dilyniant ymarfer corff Surya Namaskar (Cyfarchiad i'r Haul); a'r gymnasteg a oedd yn cael ei ymarfer yn eang yn India ar y pryd.
Mae tarddiad yr asanas sefyll wedi bod yn ddadleuol ers i Mark Singleton ddadlau yn 2010 bod rhai mathau o ioga modern yn cynrychioli ailweithio radical yr hen draddodiad o ioga hatha, yn benodol trwy ychwanegu asanas sefyll a thrawsnewidiadau (vinyasas) rhyngddynt, a thrwy atal y rhan fwyaf o agweddau an-ystumiol o ioga, yn hytrach na pharhad llyfn o draddodiadau hynafol. Roedd y newidiadau hyn yn galluogi ioga i gael ei ymarfer fel dilyniant neu lif llyfn o symudiadau yn hytrach nag fel ystumiau statig, unigol, a thrwy hyn canolbwyntiwyd ar sesiynau cadw'n heini ac ymarfer corff aerobig.
Ymhlith yr ychydig ystumiau sefyll a ymarferwyd yn gwbwl bendant mewn ioga ioga hatha cyn yr 20g mae Vrikshasana, asana a elwir yn aml yn 'Y Goeden'. Fe'i disgrifir yn nhestun ioga hatha a sgwennwyd yn y 17g yn Gheraṇḍa Saṃhitā 2.36.[2] Efallai ei fod yn llawer hŷn na hynny; ymddengys bod cerfiad carreg o'r 7g ym Mahabalipuram yn cynnwys person yn sefyll ar un goes, gan nodi efallai bod asana tebyg i Vrikshasana yn cael ei ddefnyddio bryd hynny. Dywedir i crefyddwyr o fath sadhus ddisgyblu eu hunain trwy fyfyrio yn yr ystum.[3]
Amheuir bod rhai asanas sefyll o darddiad canoloesol, heb dystiolaeth ddibynadwy. Un anhawster yw enwi; nid yw bodolaeth ystum canoloesol ag enw ystum sefyll gyfredol yn brawf bod y ddau yr un fath, gan y gall yr enwau a roddir ar asanas newid, a gellir defnyddio'r un enw ar gyfer gwahanol safle. Er enghraifft, defnyddir yr enw Garudasana, 'Yr Eryr', ar gyfer asana eistedd yn y Gheraṇḍa Saṃhitā, 2.37.[2] Rhoddir yr enw Garudasana i asana sy'n debyg iawn i Vrikshasana yn Sritattvanidhi o'r 19g; ni chrewyd yr asana modern o'r enw Garudasana tan yr 20gf.[4][5] Felly, ceir tipyn o dir llwyd gydag enwau'r asanas.
Achos arall yw Utkatasana, a elwir weithiau'n 'Y Gadair', er bod ei enw, Utkata, yn golygu "ffyrnig". Mewn ioga modern, mae'n asana heriol iawn, lle mae'r corff yn cyrcydu a'r cluniau bron yn llorweddol,[7] tra yn Sritattvanidhi yn y 19g fe'i dangosir fel asana cwrcwd isel gyda'r pen-ôl yn gorffwys yn erbyn y sodlau; mae'r Gheraṇḍa Saṃhitā 2.27 yn debyg, ond mae'r sodlau'n cael eu codi.[8]
Surya Namaskar yw prif ffynhonnell asanas sefyll. Yn ei ffurf fodern, cafodd ei greu a'i boblogeiddio gan y Rajah o Aundh, Bhawanrao Shriniwasrao Pant Pratinidhi, yn gynnar yn yr 20g. Fe'i cynigiwyd fel ymarfer ar wahân i ioga Krishnamacharya, a'i ddysgu yn y plasty y drws nesaf i Balas Mysore.[9][10][11]
Ni chofnodwyd Surya Namaskar mewn unrhyw destun ioga Haṭha cyn y 19g.[12] Ystyrir ei asanas sefyll, bellach yn rhan annatod o ioga rhyngwladol modern fel ymarfer corff a'r vinyasas a ddefnyddir mewn rhai arddulliau i drosglwyddo rhwng asanas Surya Namaskar, ac sy'n amrywio rhywfaint rhwng ysgol i ysgol. Yn Ioga Iyengar, gellir mewnosod saleoedd eraill yn y dilyniant sylfaenol.[13] Yn Ioga Ashtanga Vinyasa, mae'r dilyniant sylfaenol yn ymgorffori'r Anjaneyasana a'r asana eistedd Dandasana; mae symudiadau eraill fel Ashwa Sanchalanasana hefyd yn cael eu hymgorffori'n aml.[14]
Rhestr Wicidata: