![]() | |
Math | urban commune of Morocco, dinas ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 36,039 ![]() |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Mohamed Benaissa ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Sintra ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tangier-Assilah Prefecture ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 2 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 35.47°N 6.03°W ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Mohamed Benaissa ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Treftadaeth ddiwylliannol Moroco ![]() |
Manylion | |
Dinas ym Moroco yw Asilah (hefyd weithiau Arzila) (Arabeg: أصيلة، أرزيلة), a leolir ar ben gogledd-orllewinol Moroco ar lan y Cefnfor Iwerydd, tua 50 km i'r de o Tanger, yn rhanbarth Tanger-Tétouan. Mae'n dref gaerog a amgylchynir gan fur gyda'r pyrth canoloesol gwreiddiol yn dal yn eu lle.
Mae ei hanes yn cychwyn tua 1000 CC, pan gafodd ei defnyddio gan y Ffeniciaid fel porth masnach arfordirol. Roedd yn cael ei adnabod fel Zilis. Cefnogodd y Ziliaid ddinas Carthago yn y Rhyfeloedd Pwnig, ac o ganlyniad fe'u gorfodwyd gan y Rhufeiniaid buddugoliaethus i ymadael a sefydlwyd gwladfa o Iberiaid yn eu lle. Yn y 10g ceisiodd Normaniaid Sisili ei chipio. Bu ymrafael am ei meddiant rhwng rheolwyr Moroco a Portiwgal a Sbaen o 1471, pan gafodd ei chipio gan y Portiwgalwyr, a 1691 pan adfeddianwyd y ddinas o feddiant Sbaen gan y Swltan Moulay Ismail. Bu'n ganolfan i fôr-ladron am gyfnod ar ôl hynny. Erbyn heddiw mae'n gyrchfan gwyliau ffasiynol i Forocwyr ac eraill.