Aston Martin DB11 | |
---|---|
Brasolwg | |
Gwneuthurwr | Aston Martin |
Cynhyrchwyd | 2016–presennol |
Adeiladwyd yn | Gaydon, Lloegr |
Cynlluniwyd gan | Marek Reichman |
Corff a siasi | |
Dosbarth | Grand tourer (S) |
Math o gorff | coupé 2-ddrws |
Gosodiad | Injan-ffrynt, gyriant-ôl |
Pweru a gyriant | |
Injan | 5.2 L tyrbo-deuol injan V12 |
Trosglwyddiad | otomatig 8-cyflymder |
Maint | |
Pellter rhwng echelau | 2,808 mm (111 mod) |
Hyd | 4,739 mm (187 mod) |
Lled | 2,060 mm (81 mod) |
Uchder | 1,279 mm (50 mod) |
Pwysau | 1,770 kg (3,902 lb) |
Cyd-destun | |
Rhagflaenydd | Aston Martin DB9 |
Car moethus o fath coupé a grand tourer ydy'r Aston Martin DB11[1] a lansiwyd ac a gynhyrchwyd gan Aston Martin yn 2016. Daeth i olau dydd yn Sioe Moduron Geneva ym Mawrth 2016 gan ddisodli'r Aston Martin DB9.[2] Dyma'r model cyntaf yng nghynlluniau newydd Aston Martin, sef Cynllun yr 2g a'r car cyntaf iddyn nhw ei gynhyrchu ers iddynt ddod i bartneriaeth gyda Daimler AG.
Mae gan y DB11 injan 5204 cc tyrbo-dwbwl V12 newydd sbon: yr Aston Martin tyrbo-dwbwl cyntaf i rowlio o'r ffatri a'i werthu'n fasnachol.[3] Mae'r injan yn cynhyrchu 600 bhp (447 kW; 608 PS) a 516 lb⋅ft (700 N⋅m). Lleolwyd y blwch-ger otomatig 8-cyflymder ZF yng nghefn y car. Gall y DB11 gyflymu o 0 i 100 km/h (62 mph) mewn 3.9 eiliad gan gyrraedd 322 km/h (200 mph). Yn 2017, rhoddwyd injan llai - un 4.0-litr tyrbod-dwbwl wedi'i wneud gan Mercedes-AMG yn opsiwn yn y DB11.[4] Golygai pwysau ysgafnach yr injan newydd hwn (115 kg (254 pwys yn ysgafnach na'r V12) cyfanswm pwysau'r car i lawr i 1,760 kg (3,880 pwys).
|work=
(help)