Enghraifft o'r canlynol | pwnc gradd, gwyddoniaeth ryngddisgyblaethol, cangen o wyddoniaeth, arbenigedd |
---|---|
Math | area, ethnic, cultural, gender, and group studies, dyniaethau, anthropoleg |
Rhan o | language, communication, and cultural studies |
Yn cynnwys | astudiaethau rhywedd, Arabic studies |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Maes rhyngddisgyblaethol sy'n ymwneud â'r berthynas rhwng sefydliadau cymdeithasol a diwylliant yw astudiaethau diwylliannol. Gellir ei ystyried yn rhyngwynebu'r dyniaethau (yn bennaf llenyddiaeth) a gwyddorau cymdeithas (yn enwedig cymdeithaseg). Disgyblaeth eang ei maes ydyw, a chanddo felly ddylanwad ar gymdeithaseg, anthropoleg, hanesyddiaeth, beirniadaeth lenyddol, athroniaeth, a beirniadaeth celfyddyd.
Canolbwyntia'r maes yn bennaf ar ddiwylliant torfol a'r diwydiant diwylliannol. Ymhlith ei destunau sylw cyffredin mae diwylliant poblogaidd, cyfathrebu, prynwriaeth a'r gymdeithas defnyddwyr, y cyfryngau torfol, adloniant ac hamdden, ôl-foderniaeth, hunaniaeth, ac ideoleg.[1] Mae dadadeiladaeth ac ôl-adeiladaeth yn ddulliau poblogaidd, a rhoddir ystyriaeth sylweddol i hil ac ethnigrwydd, dosbarth cymdeithasol, a rhywedd.
Cychwynnodd y pwnc academaidd yng ngwledydd Prydain ar ddiwedd y 1950au. Sefydlwyd y Ganolfan dros Astudiaethau Diwylliannol Cyfoes ym Mhrifysgol Birmingham ym 1964, a Richard Hoggart, Stuart Hall, a Raymond Williams oedd arloeswyr y maes.[2] Ymledodd i'r Unol Daleithiau ac Awstralia, ac yn hwyrach Ewrop gan dynnu sylw athronwyr, beirniad ac ysgolheigion eraill megis Jürgen Habermas, Pierre Bourdieu, Jean Baudrillard, a Jean-François Lyotard.