Enghraifft o'r canlynol | athrawiaeth polisi tramor |
---|
Athrawiaeth polisi tramor a enwyd ar ôl Walter Ulbricht, arweinydd Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (DDR), oedd Athrawiaeth Ulbricht oedd yn haeru y gall cysylltiadau diplomyddol rhwng y DDR a Gorllewin yr Almaen ond digwydd os oedd y ddwy wladwriaeth yn cydnabod sofraniaeth ei gilydd. Cyferbynnwyd hyn gan Athrawiaeth Hallstein yng Ngorllewin yr Almaen, a mynnodd taw'r Gorllewin oedd yr unig wladwriaeth Almaenig gyfreithlon. Ar droad y 1960au–70au, mabwysiadodd Gorllewin yr Almaen Ostpolitik gan sefydlu cysylltiadau diplomyddol â'r DDR.