Athrawiaeth yr arwyddnodau

Athrawiaeth yr arwyddnodau
Enghraifft o'r canlynoldamcaniaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Triniaeth feddyginiaethol glasurol yw athrawiaeth yr arwyddnodau sy'n honni bod pob planhigyn yn meddu ar ryw nodwedd neu'i gilydd sy'n dynodi pa afiechyd mae'n ei wella (gweler er enghraifft llygad Ebrill). Ymhelaethwyd ar yr athrawiaeth yn yr 16g a'r 17g, a'r awdur cyntaf i'w hyrwyddo oedd Theophrastus Bombast von Hohenheim (1493–1541) a adwaenid fel Paracelsus. Cafodd yr athrawiaeth groeso mawr ym Mhrydain gan awduron megis William Coles, a gyhoeddodd ei Art of Simpling ym 1656, a'i gyfrol fwy, Adam in Eden, flwyddyn yn ddiweddarach. Fodd bynnag, roedd awduron megis Dodoens (1517-85) wedi gwrthod yr athrawiaeth cyn diwedd yr 16g, ond parhaodd i gael sylw mewn cyhoeddiadau o'r 18g.[1] Mae'n anodd gwybod i ba raddau y bu erioed yn rhan o gynhysgaeth lafar y werin bobl, ond mae'n ddiddorol nodi i amryw o siaradwyr a fu'n trafod yr anhwylder clwy'r marchogion er enghraifft gyfeirio at 'dail peils' yn hytrach na 'llygad Ebrill', ac i nifer ohonynt gyfeirio at siâp y gwreiddiau gan eu cymharu â'r lledewigwst, sy'n awgrymu eu bod yn ymwybodol o'r athrawiaeth, ac wedi clywed neu ddarllen amdani. Mae botanegwyr cyfoes yn credu mai ôl-resymoli a geir yma, er eu bod yn cydnabod ei bod yn anorfod y byddai planhigyn megis llygad Ebrill, y defnyddid ei wreiddiau i drin anhwylder tebyg iawn ei olwg, yn cael ei ystyried yn enghraifft amlwg o athrawiaeth yr arwyddnodau[2].

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Roy Vickery, A Dictionary of Plant Lore (Rhydychen: Oxford University Press, 1995), tt. 109–10.
  2. Ann Elizabeth Williams, Meddyginiaethau Gwerin Cymru (Y Lolfa, 2017).