Atlas Canol

Atlas Canol
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMoroco Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Arwynebedd23,000 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr3,356 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.5°N 4.5°W Edit this on Wikidata
Hyd350 cilometr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolTriasig Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMynyddoedd yr Atlas Edit this on Wikidata
Map
Map yn dangos lleoliad yr Atlas Canol ym Moroco

Cadwyn o fynyddoedd gyda hyd o tua 350 km sy'n ymestyn ar draws canolbarth Moroco o'r de-orllewin i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain yw'r Atlas Canol (Arabeg, الأطلس المتوسط ; Ffrangeg, Moyen Atlas). Mae'n gorwedd rhwng bryniau'r Rif i'r gogledd a'r Atlas Uchel i'e de, gydag arwynebedd o tua 2.3 miliwn hectar, sef tua 18% o ucheldiroedd y wlad.

Dyma'r mwyaf gorllewinol o dair cadwyn Mynyddoedd yr Atlas ym Moroco sy'n diffinio basn uchel sy'n ymestyn i gyfeiriad y dwyrain i Algeria. I'r de o'r Atlas Canol ac yn wahanedig gan yr afonydd Moulouya ac Oum Er-Rbia, mae'r Atlas Uchel yn ymestyn am 700 km mewn cyfres o gopaon gyda deg ohonynt dros 4,000 medr. I'r gogledd o'r Atlas Canol gorwedd Afon Sebou a mynyddoedd y Rif, sy'n ymestyniad deheuol o'r Cordillera Baetig (sy'n cynnwys y Sierra Nevada) yn ne Sbaen.

Gorwedd yn bennaf yn nhaleithiau Khénifra, Ifrane, Boulmane, Sefrou ac El Hajeb, ynghyd â rhannau o daleithiau Taza a'r Beni Mellal (enwir yr olaf yn "Ddrws yr Atlas Canol"). Fel yn achos yr Atlas Uchel, mae'n gartref i'r Berberiaid ac yn un o gadarnleoedd yr iaith Ferbereg.