Aubrey Richards | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mehefin 1920 Abertawe |
Bu farw | 29 Mai 2000 Barnet |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, actor teledu |
Priod | Diana Boddington |
Roedd Aubrey Richards (6 Mehefin 1920 – 29 Mai 2000) yn actor a anwyd yng Nghymru ac a ymddangosodd mewn nifer o gynyrchiadau ffilm a theledu dros gyfnod o 40 mlynedd, yn aml yn portreadu athrawon.
Dechreuodd ei yrfa actio mewn theatr repertori. Roedd ei ffilmiau yn cynnwys The Ipcress File (1965), It! (1967), The Man Who Haunted Himself (1970), Under Milk Wood (1972), Night Endless (1972) a Savage Messiah (1972) fel y maer. Ar y teledu roedd ganddo rôl bwysig fel Samuel Evans yn Carrie's War (1974) a rhannau cylchol yn Emergency-Ward 10, antur Doctor Who "The Tomb of the Cybermen" (1967) fel yr Athro Parry a How Green Was My Valley (1975-76) fel Mr Elias.
Roedd yn briod a Diana Boddington, y rheolwr llwyfan nodedig ac roedd ganddynt ddau o blant, Claudia a David.