August Bebel | |
---|---|
August Bebel (tua 1900) | |
Ganwyd | 22 Chwefror 1840 Deutz, Cwlen |
Bu farw | 13 Awst 1913 o trawiad ar y galon Passugg |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia |
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor, turner |
Swydd | member of the Reichstag of the North German Confederation, member of the Reichstag of the North German Confederation, member of the Reichstag of the German Empire, Member of the Customs Parliament |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, Social Democratic Workers' Party of Germany, Saxon People's Party |
Priod | Julie Bebel |
Plant | Bertha Friederike Bebel |
llofnod | |
Gwleidydd ac awdur sosialaidd o'r Almaen oedd August Bebel (22 Chwefror 1840 – 13 Awst 1913) sydd yn nodedig fel un o sefydlwyr Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen ac am arwain yr honno am 44 mlynedd, ers ei sefydlu hyd at ei farwolaeth.
Ganed ef yn Deutz, ger Cwlen, yn Nheyrnas Prwsia. Turnio oedd ei grefft. Ymunodd â Chymdeithas Addysg Gweithwyr Leipzig ym 1861 a phenodwyd yn gadeirydd yr honno ym 1865. Dylanwadwyd arno gan syniadau ei gyfaill Wilhelm Liebknecht, ac ym 1869 cyd-sefydlasant y Blaid Lafur Ddemocrataidd Gymdeithasol (yn ddiweddarach y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol). Gwasnaethodd yn y Reichstag ym 1867, 1871–81, a 1883–1913. Fe'i carcharwyd am bum mlynedd i gyd, gan gynnwys am enllibio'r Canghellor Otto von Bismarck. Ysgrifennodd sawl traethawd a gwaith propaganda, gan gynnwys Die Frau und der Sozialismus (1879).
Ganed August Bebel ar 22 Chwefror 1840 yn Deutz—tref sydd bellach yn rhan o ganol dinas Cwlen—ar lan Afon Rhein, yn Nhalaith y Rheindir, Prwsia. Swyddog digomisiwn ym Myddin Frenhinol Prwsia oedd ei dad. Cafodd August ei fagu mewn tlodi yn Wetzlar—a oedd yn allglofan i Dalaith y Rheindir—ac yno dysgodd grefft y turniwr. Teithiodd ar draws de'r Almaen ac Awstria yn cynnig ei waith, ac yng ngwanwyn 1860 ymsefydlodd yn Leipzig, Teyrnas Sachsen. Ymaelododd â Chymdeithas Addysg Gweithwyr Leipzig ym 1861, a daeth yn gadeirydd ym 1865.[1]
Ymsefydlodd William Liebknecht yn Leipzig ym 1865, wedi iddo gael ei ddiarddel o Ferlin am ei wrthwynebiad i lywodraeth Bismarck. Daeth y ddau ohonynt yn gyfeillion agos, a dylanwadodd syniadaeth sosialaidd Liebknecht yn gryf ar feddwl Bebel. Sefydlasant Blaid y Bobl Sacsonaidd (SVP) yn sgil Rhyfel Awstria a Phrwsia (1866), ac ym 1867 etholwyd Bebel i Reichstag Cydffederasiwn Gogledd yr Almaen fel aelod o'r blaid. Ym 1869 unodd yr SVP gyda phleidiau eraill i ffurfio'r Blaid Lafur Ddemocrataidd Gymdeithasol (SDAP), a fyddai'n newid ei enw i Blaid Lafur Sosialaidd yr Almaen (SAPD) ym 1875 ac i Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen (SDP) ym 1890.
Bu farw August Bebel yn Passugg yn y Grisons, y Swistir, yn 73 oed.[1]