Aurelius Caninus

Aurelius Caninus
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn, pendefig Edit this on Wikidata
Blodeuodd540 Edit this on Wikidata
Swyddtywysog Edit this on Wikidata
PerthnasauCystennin Edit this on Wikidata

Un o’r pum teyrn Cymreig yr ymosodwyd arnynt gan Gildas yn ei lyfr De Excidio Brittanniae oedd Aurelius Caninus (fl. tua 530), y cyfeirir ato hefyd fel Cynan Wledig (gweler isod).

Gildas

[golygu | golygu cod]

Ef yw’r ail i’w grybwyll gan Gildas yn ei restr o frenhinoedd Cymreig, ac awgryma J.E. Lloyd, os yw Gildas yn eu rhestru yn ôl eu lleoliad daearyddol, fod ei deyrnas yn Nyffryn Hafren.

Awgryma Lloyd ymhellach y gall fod Aurelius Caninus yn ddisgynnydd i Ambrosius Aurelianus, a bod Gildas wedi troi enw Celtaidd y brenin yn "Caninus" (ci) fel sarhad arno. Mae’n ei gyhuddo o lofruddiaeth, godineb a chasineb at heddwch. Dywed fod ei deulu wedi marw a’i adael "fel pren crin yng nghanol cae."

Sieffre o Fynwy

[golygu | golygu cod]

Ymddengys yng ngwaith Sieffre o Fynwy dan yr enw "Aurelius Conanus", neu yn y trosiadau Cymraeg o waith Sieffre, "Cynan Wledig".[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Brut Dingestow, gol. Henry Lewis (Gwasg Prifysgol Cymru, 1942)