Math | safle archaeolegol, cylch cerrig, meingylch |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Stonehenge, Avebury and Associated Sites |
Sir | Avebury |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.4286°N 1.8542°W |
Cod OS | SU1024769967 |
Rheolir gan | English Heritage, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Cyfnod daearegol | Oes Newydd y Cerrig |
Perchnogaeth | English Heritage, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Meingylch, neu gylch cerrig, o Oes y Cerrig a heneb cofrestredig ydy Avebury (hen enw: Caer Abiri) sydd wedi'i lleoli mewn pentref o'r un enw ac sy'n cynnwys tri chylch cerrig. Un o'r cylchoedd hyn ydy'r cylch cerrig mwyaf yn Ewrop. Saif yn Swydd Wilton, de-orllewin Lloegr.
Cafodd ei chodi tua 2600 CC, yn ystod Oes Newydd y Cerrig gyda henge enfawr yn amgylchynu'r cyfan a ffos a chlawdd, gyda chylch cerrig y tu fewn - a dau gylch cerrig o fewn yr un mawr. Ni wyddom beth oedd pwrpas yr heneb hon, ond ceir sawl posibilrwydd. Cred llawer o archaeolegwyr mai pwrpas seremoniol oedd iddi. Mae'n rhan o ardal lle ceir llawer iawn o henebau tebyg, yn perthyn i'r oes Neolithig hon.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw perchennog y safle gan ei warchod a'i farchnata i dwristiaid. Mae wedi'i gofrestru ers 1986 fel Safle Treftadaeth y Byd.