Yr Awen yw ysbrydoliaeth farddol yn y traddodiad barddol Cymraeg. I ryw raddau mae'n cyfateb i'r muse clasurol ac yn perthyn i draddodiadau cyffelyb a geir gan bobloedd Indo-Ewropeaidd eraill.
Roedd y beirdd Rhufeinig fel Ofydd yn cyfeirio'n aml at yr Awen yn eu cerddi. Dyma Ofydd yn yr Ars Amatoria er enghraifft:
Mae Nennius yn cyfeirio at fardd cynnar o'r enw Talhaearn Tad Awen yn ei Historia Brittonum. Cyfeiria Gerallt Gymro at yr awenyddion, beirdd neu broffwydi a oedd yn datgan daroganau dan ysbrydoliaeth yr Awen.
Roedd yn arfer gan y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd gyfarch yr Awen ar ddechrau cerdd, naill ai'n uniongyrchol neu i'w gofyn fel rhodd gan Dduw. Yn aml fe'i cysylltir â phair Ceridwen, ffynhonnell ysbrydoliaeth a gwybodaeth y Taliesin chwedlonol. Er enghraifft:
(Llywarch ap Llywelyn (Prydydd y Moch), c. 1173-1220)
Ond nid oedd pawb yn derbyn tarddiad "paganaidd" yr Awen. Eisoes yng ngwaith Beirdd y Tywysogion gwelir tueddiad gan rai beirdd i bwysleisio bod yr Awen yn tarddu o'r Duw Gristnogol. Rhai canrifoedd yn ddiweddarach ymosododd y bardd Siôn Cent ar yr "Awen baganaidd" gan ei gwrthwynebu â'r "Awen Gristnogol." Cyrhaeddodd y ddadl ei huachafbwynt ar ddiwedd yr 16g yn yr ymryson barddol enwog rhwng Edmwnd Prys (1543–1623), archddiacon Meirionnydd, a'r bardd Wiliam Cynwal (m. 1587 neu 1588).