Math | ksar, treftadaeth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ait Zineb |
Gwlad | Moroco |
Arwynebedd | 3.03 ha, 16.32 ha |
Cyfesurynnau | 31.05°N 7.13°W |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd, Treftadaeth ddiwylliannol Moroco |
Manylion | |
Tref gaerog yn ne canolbarth Moroco yw Aït Benhaddou (Amazigh: Ath Benhadu, Arabeg: آيت بن حدّو). Gorwedd y gaer, neu ksar (kasbah) yn Arabeg Moroco, ar yr hen lwybr carafan rhwng y Sahara a Marrakech. Fe'i lleolir yn rhanbarth modern Souss-Massa-Draâ ar fryn uwchlaw Afon Ouarzazate, tua 32 km o ddinas Ouarzazate ei hun. Mae'r rhan fwyaf o drigiolion yr hen gaer wedi symud i fyw mewn pentref yr ochr arall i'r afon.
Dyma un o gaerau mwyaf adnabyddus Moroco, a gyhoeddwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1987. Mae wedi denu nifer o wneuthurwyr ffilm hefyd, ac mae rhannau o dros ugain o ffilmiau wedi'u saethu yno, yn cynnwys: