Math | trafnidiaeth gyflym awtomataidd, uwchbrosiect cludiant, rheilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Ardal Bae San Francisco |
Agoriad swyddogol | 11 Medi 1972 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | public transportation in San Francisco |
Sir | Ardal Bae San Francisco |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 37.7868°N 122.4023°W |
Nifer y teithwyr | 129,300,000 ±50000, 123,500,000 |
Perchnogaeth | San Francisco Bay Area Rapid Transit District |
Mae BART (Bay Area Rapid Transit) yn system drafnidiaeth cyflym sy'n cysylltu San Francisco efo dinasoedd a threfi ar ochr ddwyreiniol Bae San Francisco, gan gynnwys Berkeley ac Oakland, ac yn gwasanaethu siroedd San Francisco, Alameda a Contra Costa. Defnyddir y rhwydwaith gan dros 350,000 o bobl yn ddyddiol.[1]
Mae 44 o orsafoedd a 104 o filltiroedd o gledrau.[2] Lled y cledrau yw 1.676mm, ac mae trydedd cledr yn cyflenwi 1000 folt o drydan i'r trenau.
Mae gan BART 5 lein:-
Pittsburg/Bay Point – Maes Awyr San Francisco
Richmond – Daly City/Millbrae
Fremont – Daly City
Richmond – Fremont
Dublin/Pleasanton - Daly City/Millbrae
Cysylltir rhwydwaith o dramffyrdd Muni efo BART yn sawl gorsaf yn San Francisco, a hefyd y lein Metrolink rhwng San Francisco a Los Angeles yng Ngorsaf San Matteo.
Gwefan BART Archifwyd 2013-04-02 yn y Peiriant Wayback