BMW i3

BMW I3
2014 BMW i3
Trosolwg
GwneuthurwrBMW
Enw arallBMW Mega City Vehicle
Cynhyrchu2013–presennol
Sawl blwyddyn2014–presennol
GosodLeipzig, yr Almaen
CynllunyddRichard Kim[1][2]
Corff a siasi
DosbarthCar-i'r-ddinas
Math o gorff5-drws hatchback
TrefnPeriant tua'r cefn, gyriant olwynion cefn
Pwer
Peiriant25 kW 647 cc, generadur dwy silindr (opsiynol) gyda cynhwyedd tanc-llawn o
9 L (2.4 US galwyn) yn Ewrop
7.2 L (1.9 US galwyn) in the U.S. yn UDA[3][4]
Modur trydan125 kW (168 bhp)[5]
TrosglwyddiadUn cyflymder gyda chymhareb sefydlog (Single speed with fixed ratio)
Batri22 (18.8 defnyddiol) kWh batri lithiwm-ion[6]
Dim ond ar drydanCerbyd gyriant batri trydan
130 km (81 mi) Asiantaeth Gwarchod yr Amgylchedd (UDA)[7]
[convert: precision too large] NEDC Range extender
116 km (72 mi) (EPA) Cyfanswm: 240 km (150 mi) (EPA)[8]
Gorsaf bweru7.4 kW
Maint
Pellter rhwng echelydd (Wheelbase)2,570 mm (101 mod)
Hyd3,999 mm (157.4 mod)
Lled1,775 mm (69.9 mod)
Uchder1,578 mm (62.1 mod)
Pwysau pafin1,195 kg (2,635 lb)

Car trydan 5-drws ydy'r BMW i3, a elwid yn wreiddiol yn Mega City Vehicle (MCV). Fe'i gwneir gan y cwmni Almaenig BMW ac mae'n rhan o'u "Project i".[9][10][11] Dyma fodel cyntaf BMW heb allyriant sydd wedi'i fas-gynhyrchu a BMW yw'r cyntaf i greu car wedi'i wneud o bolymer a atgyfnerthwyd gan garbon-ffibr, sy'n gwella effeithiolrwydd a'r defnydd o ynni.

Lleolir y modur, sy'n gyrru'r car, rhwng yr olwynion ôl.

Yn Rhifyn Haf 2016 o gylchgrawn gwerthuso ceir Top Gear, derbyniodd y BMW i3 9 marc allan o 10: un o'r ychydig geir i dderbyn marciau mor uchel.[12] Nodwyd fod y car hwn yn torri tir newydd: "the most revolutionary mainstreem car yet". Erbyn Haf 2016 roedd BMW yn cynnig range extender i'w alluogi i fynd ymhellach ar lond batri o drydan, am gost o £34,130 yn hytrach na £30,980 am gar heb yr estyniad hwn.

Gall Y BMW i3 gyrraedd pellter o rhwng 130 – 160 km (80 - 100 mi) dan amgylchiadau a nodir yng Nghylch Gyrru Newydd Ewrop (New European Driving Cycle) (NEDC), a hyd at 200 km (120 mi) ar ei fwyaf effeithiol. Dan amgylchiadau a nodir gan Asiantaeth yr Amgylched (UDA), y pellter swyddogol ydy 130 km (81 mi) ac economi tanwydd o 124 milltir y galwyn cywerth —MPGe— (1.90 L/100 km; 149 mpg imp). Cynigia BMW fodel sydd a phellter o 260 – 290 km (160 - 180 mi), sef y i3 REx, gyda pheiriant petroliwm 647 cc dwy silindr a thanc tanwydd bychan sy'n cicio i mewn pan fo'r batri bron a gwacáu. Mae'r peiriant hwn yn gweithio fel generadur sy'n cynhyrchu trydan sydd yn ei dro'n gyrru'r olwynion. Ym Mehefin 2015 dyma'r cerbyd trydan mwyaf effeithiol o ran tanwydd, a gynhyrchwyd yn fyd-eang, a'r i3 REx yw'r car trydan ardystiedig mwyaf effeithiol gyda pheiriannau petroliwm.[7]

Dadorchuddiwyd y car am y tro cyntaf yn Sioe Cerbydau Rhyngwladol yr Almaen yn 2011 a rhowliwyd y car adwerthol i'r cwsmer yng Ngorffennaf 2013. Yn 2015 roedd y pris gwerthu yn US$42,275 cyn nawdd llywodraeth yn yr UDA a'r i3 REx yn US$3,850 ychwanegol. Yng ngwledydd Prydain mae'r car ar werth am £30,680 (US$47,195) cyn nawdd. Hyd at Rhagfyr 2015 gwerthwyd 41,586 o gerbydau ledled y byd, y trydydd gorau, o holl geir trydan-yn-unig.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Richard Kim - Exterior Designer BMW i3 i8. YouTube. Cyrchwyd 2013-03-10.
  2. Phil Patton (2011-11-10). "At BMW's New Electric Subbrand, a Young Designer Makes His Mark". New York Times. Cyrchwyd 2014-02-09.
  3. BMW USA. "The BMW i3 with Range Extender - Features & Specs". BMW USA. Cyrchwyd 2014-05-25.
  4. BMW USA. "The BMW i3 - Features & Specs". BMW USA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-26. Cyrchwyd 2014-05-25.
  5. BMW i. "BMW i3 Technical Data: BMW eDrive". BMW. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-03. Cyrchwyd 2015-10-04.
  6. "BMW i3 Technical Data". Cyrchwyd 2014-03-19.
  7. 7.0 7.1 United States Environmental Protection Agency and U.S. Department of Energy (2015-12-04). "Compare Side-by-Side: 2014/2015 BMW i3 BEV & 2014/2015 BMW i3 REx". fueleconomy.gov. Cyrchwyd 2015-12-06.
  8. Antony Ingram (2014-05-21). "2014 BMW i3 REx Window Sticker Revealed, 39 MPG On Gasoline: BREAKING". Green Car Reports. Cyrchwyd 2014-05-25. See details in EPA window sticker
  9. Jack Ewing (2010-07-29). "Will Plug-In BMWs Turn Enthusiasts On?". New York Times. Cyrchwyd 2010-10-02.
  10. Jay Cole (2013-02-26). "First BMW i3 Electric Car Test Ride, 2.3 Gallon Range Extender Option To Cost About $4,000". Inside EVs. Cyrchwyd 2013-07-05.
  11. Tom Murphy (2010-05-19). "Mini E Only Beginning of BMW EV Strategy". Wards Auto. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-24. Cyrchwyd 2010-06-13. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  12. Gweler Top Gear: New Car Buyers Gide; tud. 275.

Dolennau allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: