Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas eistedd, asanas ymlaciol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asana eistedd o fewn ymarferion ioga yw Baddha Konasana (Sansgrit: बद्धकोणासन; IAST: baddhakoṇāsana), Asana Ongl Clwm, neu Y Crydd (ar ôl safle eistedd nodweddiadol cryddion Indiaidd (a Chymreig) pan fyddant yn gweithio).[1] Yn hanesyddol, gelwid yr asana hon yn Bhadrasana,[2] Yr Orsedd,[2] ac fe'i ceir o fewn ioga hatha ac ioga modern fel ymarfer corff. Os yw'r pengliniau'n gorffwys ar y llawr, mae'n addas fel safle cyfforddus i fyfyrio ac ymlacio.[2]
Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit बद्ध, Baddha sy'n golygu "rhwym" neu "clwm", कोण, Koṇa sy'n golygu "ongl",[3] ac आसन, Āsana sy'n golygu "ystum" neu "safle'r corff".[4]
Mae'r enw Baddha Konasana yn gymharol ddiweddar, ond mae'r osgo yn ganoloesol,dan yr enw Bhadrasana (o भद्रा Bhadra, "gorsedd"[5]) a gyhoeddwyd yn yr Haṭha Yoga Pradīpikā 1.53-54 yn y 15g.[2]
O'r safle eistedd gyda'r ddwy goes wedi'u hymestyn ymlaen, rhoddir y dwylo wrth yr ochrau, cledrau'n gorffwys ar y llawr, bysedd gyda'i gilydd yn pwyntio ymlaen, mae'r coesau wedi'u colfachu wrth y pengliniau fel bod gwadnau'r traed yn cwrdd. Gafaelir yn y fferau a'u plygu'n fwy nes bod y sodlau'n cyrraedd y perinewm. Symudir y pen-gliniau i lawr ar y llawr, a chydag arfer fe'i cyrhaeddir; mae'r corff yn codi a'r llygaid yn syllu ymlaen. Mae'r asana yn cael ei ddal cyn dod yn ôl i'r man cychwyn. Mae'r cluniau'n cael eu hymestyn yn ofalus. Pan gaiff ei ddefnyddio ar gyfer myfyrdod, rhoddir y dwylo yn safle Anjali mudra (safle gweddi) o flaen y frest.[6]
Mae'r asana yma'n agor cluniau a'r afl led y pen,[7] ac mae'n un o'r ychydig asanas y gellir ei ymarfer yn gyfforddus yn fuan ar ôl bwyta, ac eithrio'r amrywiad plygu ymlaen gyda'r pen ar y llawr. Honnir yn Light on Yoga bod Baddha Konasana yn fuddiol i fenywod beichiog, gan fod ymarfer rheolaidd yn lleihau poen yn ystod yr enedigaeth.[8] Os oes anaf i'r afl neu'r pen-glin, rhaid cynnal y pen-gliniau ar flancedi wedi'u plygu.[9]
Amrywiad cyffredin yw Supta Baddha Konasana,[10] Crudd yn Gorwedd, o सुप्त, supta, sy'n golygu "gorwedd" neu "ledorwedd".[11]
Yn ystod beichiogrwydd, gellir ymarfer yr asana yn lledorwedd fel "Pilipala ar Wal", gyda'r pen-ôl a'r traed yn erbyn wal, y traed gyda'i gilydd, a'r pen-gliniau'n disgyn i'r ochrau. Gellir defnyddio'r dwylo i wasgu'r pengliniau.[12]
Gyda Tarasana (y Seren), dylai'r corff bwyso ymlaen dros y traed sydd wedi'u gorchuddio.[13]