Math | dosbarth, bae |
---|---|
Enwyd ar ôl | Caerdydd |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd, Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.463°N 3.164°W |
Ardal yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru, yw Bae Caerdydd. Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel Tiger Bay, ac ar un adeg hwn oedd un o borthladdoedd mwyaf prysur y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu ac yn cael ei hadnabod fel 'Bae Caerdydd'. Ond mae llawer o bobol leol yn dal i'w alw e'n Tiger Bay o hyd. Mae'r ardal yn boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant. Daw'r twf aruthrol yma ar ôl adeiladu morglawdd ar draws y bae, gan greu llyn enfawr. Roedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu.
Yn 1987, sefydlwyd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd er mwyn adfywio'r dociau, De Caerdydd a Phenarth a oedd yn dirywio.
Ei datganiad oedd: To put Cardiff on the international map as a superlative maritime city which will stand comparison with any such city in the world, thereby enhancing the image and economic well-being of Cardiff and Wales as a whole.[1]
Gosodwyd rhai nodau ar gyfer yr ail datblygu:
Ailddatblygwyd yr ardal efo chymysgedd canmoliaethus o dai, tir agored, masnachau, ardaloedd manwerthu, canolfeydd hamdden, a datblygiad diwydiannol. Canolbwynt y prosiect oedd y morglawdd i greu llyn dŵr croyw ac ardal ymyl dŵr fwyaf Ewrop.
Er mwyn cyrraedd yr holl nodau, gosodwyd targedau:
Daeth Corffolaeth datblygu Bae Caerdydd i ben yn y flwyddyn 2000. Cyngor Caerdydd sydd yn gyfrifol am y datblygiadau pellach.
Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yno mae Canolfan y Mileniwm sydd yn gartref i Urdd Gobaith Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru.
Mae'r Eglwys Norwyaidd yn y bae, ar un o geiodd yr hen ddociau, lle cafodd yr awdur Roald Dahl ei fedyddio.