![]() | |
Math | bae ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5689°N 4.0334°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Mae Bae Caswel yn draeth poblogaidd ym Mhenrhyn Gŵyr sydd wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 1 Ionawr 1972 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 62.99 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.
Mae'r ffordd i lawr at y traeth yn hawdd a cheir parc chwarae ychydig i mewn i'r tir. Mae'r traeth yn boblogaidd ar gyfer nifer o chwareaeon dŵr gan gynnwys syrffio. Mae'r traeth hwn yn derbyn gwobrau Baner las yn flynyddol.
Yn 2006 derbyniodd Bae Caswell wobr y Guardian a chafodd ei gynnwys yn y rhestr 50 traeth gorau yng ngwledydd Pryadain.[2]
Rhwng 1829 a 1840 prynnwyd llawer o'r tir oamgylch y bae gan John James, cyn-Giwrat Bishopston, yn anrheg i'w ferch a'i fab-yng-nghyfraith Charles Morgan.[3] Ym 1846, gwerthodd y teulu'r rhan dwyreiniol i'r ffotograffyd John Dillwyn Llewelyn a oedd yn ymwelydd cyson a'r bae. Cododd dŷ yma a'i alw'n "Caswell Cottage" a chafodd ei ddymchwel ym 1960.[4] Ym 1854 gofynnwyd i Llewelyn gan Albert o Saxe-Coburg-Gotha am ddau ffotograff o'r bae'n anrheg.[5] Yn Awst 1878 boddodd ŵyr Llewellyn tra'n nofio yn y bae a chynhaliwyd y cwest yng Ngwesty Caswell Bae.
Dynodwyd y safle’n un o statws arbennig ar sail daeareg yn ogystal â bod ynddo fywyd gwyllt o bwys ac o dan fygythiad. Er enghraifft efallai i’r statws gael ei ddynodi oherwydd fod ynddo strata’n cynnwys ffosiliau hynod o greaduriaid asgwrn cefn neu ffosiliau o bryfaid neu blanhigion yn ogystal â’r stratigraffeg ei hun (h.y. haenau o greigiau o bwys cenedlaethol). Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.