![]() | |
Math | compact rural community, tref ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | y Bala ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Muskoka Lakes ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 232 metr ![]() |
Gerllaw | Llyn Muskoka, Afon Moon ![]() |
Cyfesurynnau | 45.0175°N 79.6172°W ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan | Thomas Burgess ![]() |
Mae tref fechan Bala yn Muskoka Lakes Township, yn nhalaith Ontario, Canada, yn efeilldref i'r Bala yng Ngwynedd.
Mae'n sefyll ar aber Afon Moon ar lan Llyn Muskoka, i'r gogledd o Toronto. Mae'n ganolfan gwyliau poblogaidd; yn yr haf mae ei phoblogaeth o ychydig o gannoedd yn cynyddu'n sylweddol wrth i filoedd o ymwelwyr heidio yno am y diwrnod, neu am y tymor i aros mewn tai haf.
Cafodd ei henw gan Thomas Burgess, yr ymsefydlwr cyntaf yno yn y flwyddyn 1868. Gobaith Burgess a'i debyg oedd ennill bywiolaeth o ffermio, ond mae Bala ar Darian Canada ac o ganlyniad nid yw'n addas iawn ar gyfer amaethu. Dirywiodd y diwydiant coedwigaeth yn ogystal ac erbyn heddiw twristiaeth yw'r prif ffynhonnell incwm.