Enghraifft o'r canlynol | dinas |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2800 (yn y Calendr Iwliaidd) CC |
Aelod o'r canlynol | Creative Cities Network |
Rhanbarth | Bamiyan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Safle archaeolegol yng nghanolbarth Affganistan yw Bamiyan (hefyd Bamyan neu Bamian, yn y dyffryn o'r un enw. Bu'n enwog am ganrifoedd am y cerfluniau anferth o'r Bwdha wedi'u torri yn wyneb clogwyn. Yn gysylltiedig â'r cerfluniau hyn ceir rhwydwaith o ogofâu fu'n gartref i fynachod.
Am gyfnod o rai canrifoedd roedd Affganistan yn ganolfan Fwdhaidd bwysig. Mae adfeilion Bamiyan yn dyst i hynny, ac yn cysylltu'r wlad â diwylliant Bwdhaidd Canolbarth Asia (gwerddon Turfan er enghraifft) a Tibet ar un llaw ac â dinasoedd Bwdhaidd Gandhara (gogledd-orllewin Pacistan heddiw) ar y llaw arall. Ymwelodd sawl pererin Bwdhaidd o Tsieina â'r ardal ar eu ffordd i India, fel Hiuen Tsang (7g) er enghraifft, ac mae eu llyfrau topograffig a dyddiaduron taith yn ffynonellau pwysig i'n dealltwriaeth o'r cyfnod, yn Affganistan ei hun ac yn India.
Tyfodd dinas ganoloesol yn y dyffryn, ond cafodd ei dinistrio gan y Mongoliaid yn 1222 pan gipiodd Genghiz Khan y wlad.
Cafodd y cerfluniau mawr eu difetha'n llwyr bron gan elfennau o'r Taleban trwy saethu arnynt gan danciau. Heddiw mae ymgyrch mawr i adfer a diogelu'r safle, sy'n un o'r pwysicaf yn hanes Bwdiaeth ac ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd.