Rhwydwaith rhyngwladol o gynadleddau yw BarCamp. Cymerant ffurf gweithdai sy'n agored i bawb, ble mae'r cynnwys yn cael ei ddarparu gan y mynychwyr i gyd.
Roedd y BarCamp cyntaf yn canolbwyntio ar raglenni i'r we a thechnoleg ffynhonnell agored. Mae'r fformat wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer amryw o bynciau eraill, megis trafnidiaeth gyhoeddus, gofal iechyd, a gweithgarwch gwleidyddol.