Delwedd:Horace Vernet-Barricade rue Soufflot.jpg, Barricade Paris 1871 by Pierre-Ambrose Richebourg.jpg, Warsaw Uprising - Plac Zbawiciela Barricade.jpg | |
Math | dyfais, nodwedd ddaearyddol a wnaed gan bobl, obstacle |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1830 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mur byrfyfyr a godir i lesteirio'r gelyn rhag symud yn ei flaen yw baricêd,[1] brysglawdd,[2] gwrthglawdd, neu atalglawdd. Amddiffynfa dros dro ydyw a wneir o ddaear, boncyffion, cerrig palmant, cerbydau, dodrefn, neu ddefnyddiau eraill sydd wrth law, a phentyrrir ar draws stryd neu ffordd gan amlaf.
Yr achos mawr cyntaf o ddefnydd y baricêd oedd Diwrnod y Baricedau (Ffrangeg: Journée des barricades) ar 12 Mai 1588 yn ystod Rhyfeloedd Crefydd Ffrainc. Dan arweiniad Henri, Dug Guise, pennaeth y Cynghrair Sanctaidd, gwrthryfeloedd trigolion Paris yn erbyn bwriad y Brenin Henri III i fwrw lluoedd Catholig allan o'r ddinas. Cynllwyniodd y Dug Henri a chyngor y quartiers i ddosbarthu cadwyni ar draws y ddinas, ac i gyfarwyddo'r trigolion i bentyrru casgenni (barriques), wagenni, a choed yn y strydoedd a'u cadwyno i atal lluoedd y brenin rhag chwilio'u tai. Sefydlwyd baricedau ar sawl achlysur pwysig arall yn hanes Ffrainc, gan gynnwys y gwrthryfel yn erbyn Louis XIV ar 27 Awst 1648, cyfnod y Chwyldro Ffrengig ym Mai 1795, Comiwn Paris ym 1871, a therfysgoedd 1968. Codwyd baricedau ar draws Ewrop yn ystod chwyldroadau 1848.[3]