Barrwg

Barrwg
GanwydCymru Edit this on Wikidata
Bu farwo boddi Edit this on Wikidata
Môr Hafren Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Blodeuodd6 g Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl27 Medi Edit this on Wikidata

Sant o Gymru yn y 6g oedd Barrwg (neu Baruc), a oedd yn ddisgybl i Sant Cadog (Catwg Ddoeth).

Anghofiodd ddod â deunydd darllen Cadog gydaf ef ar daith o Ynys Echni, felly cafodd ei anfon yn ôl gan Cadog ac fe foddodd ef ym Môr Hafren ar y ffordd yn ôl i'r tir mawr. Claddwyd Barrwg ar Ynys y Barri a gellir gweld adfeilion y capel a gysegrwydd iddo hyd heddiw yn Friars Road, Ynys y Barri. Ar 27 Medi y mae dygwyl Barrwg yn cael ei dathlu.

Enwyd ysgol gyfrwng Cymraeg Sant Baruc yn y Barri ar ei ôl ac mae bwrdeistref etholiadol Ward Baruc yn y dref hefyd.