Bartolomé Hidalgo | |
---|---|
Ganwyd | 24 Awst 1788 Montevideo |
Bu farw | 28 Tachwedd 1822 Morón |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
Galwedigaeth | llenor, bardd |
Arddull | gaucho literature, barddoniaeth |
Bardd o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Bartolomé Hidalgo (24 Awst 1788 – 28 Tachwedd 1822). Roedd yn un o'r llenorion cyntaf o America Ladin i ysgrifennu am fywyd y gaucho.
Ganwyd ym Montevideo yn Rhaglywiaeth Río de la Plata, un o raglywiaethau Ymerodraeth Sbaen yn yr Amerig. Mynychodd ysgol Ffransisgaidd. Cafodd waith yn gyfrifydd yn y trysorlys brenhinol yn 1806, ac ymunodd â'r fyddin leol. Brwydrodd yn erbyn yr Ymerodraeth Brydeinig yn ystod goresgyniadau'r Río de la Plata (1806–07) ac yn erbyn Ymerodraeth Portiwgal yn ystod goresgyniad y Banda Oriental (1811–12). Roedd yn gyfaill clos i José Gervasio Artigas, arwr cenedlaethol Wrwgwái, a daliodd sawl swydd yn llywodraeth y Liga Federal.[1]
Aeth Hidalgo i'r Ariannin yn 1818, ac yno bu farw yn 34 oed ym mhentref Morón. Cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth filwriaethus, Cielitos y Diálogos patrióticos (1820–22), sy'n adlewyrchu ei gefnogaeth frwd dros y mudiad annibyniaeth. Cyfansoddodd gan amlaf yn nhraddodiad y beirdd newydd-glasurol, ond bu hefyd yn arloesi barddoniaeth boblogaidd drwy gyfrwng tafodiaith y rioplatense ac iaith y gauchos, er enghraifft yn Relación de las fiestas mayas de 1822.[1]