Rebecca JamesJames yn 2012 |
Gwybodaeth bersonol |
---|
Enw llawn | Rebecca Angharad James[1] |
---|
Ganwyd | (1991-11-29) 29 Tachwedd 1991 (33 oed) Y Fenni, Sir Fynwy, Cymru[1] |
---|
Taldra | 1.71 m (5 tr 7 mod)[2] |
---|
Pwysau | 67 kg (148 lb; 10.6 st)[2] |
---|
Gwybodaeth tîm |
---|
Tim presennol | Motorpoint–Marshalls Pasta[3] |
---|
Disgyblaeth | Trac a ffordd |
---|
Rôl | Reidiwr |
---|
Math reidiwr | Gwibiwr / Cyffredinol |
---|
Tîm(au) amatur |
---|
Clwb ffordd y Fenni |
|
---|
Tîm(au) proffesiynol |
---|
2010– | Motorpoint–Marshalls Pasta[3] |
---|
|
---|
|
---|
Diweddarwyd y wybodlen ar 13 Awst 2016 |
Seiclwraig broffesiynol o Gymru yw Rebecca Angharad "Becky" James (ganwyd 29 Tachwedd 1991). Llwyddodd i ennill Bencampwriaeth y Byd yn y keirin a'r ras wibio ym Minsk yn 2013[4] a chafodd ddwy fedal arian yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2016 yn y keirin a'r ras wibio.
Mynychodd James Ysgol y Brenin Harri VIII, y Fenni.[5] Mae'n ferch i David James a Christine Harris ac yn un o chwech o blant[5][6]. Ymhlith ei chwiorydd, mae Rachel yn aelod o dîm para-seiclo Prydain Fawr fel peilot ar y tandem[7][8] tra bod Ffion yn aelod o dîm dan 23 traws-seiclo Prydain[9] a Megan wedi bod yn bencampwr dan 14 traws-seiclo Prydain[10].
Cychwynnodd James ei gyrfa gyda'r Abergavenny Road Club yn 11 mlwydd oed[11][12] cyn cael ei derbyn fel aelod o gynllun Talent Cymru ac Academi Ieuenctid British Cycling[12]. Llwyddodd i ennill medalau aur ym Mhencampwriaethau Iau Ewrop yn y 500 m yn erbyn y cloc a'r ras wibio ym Minsk, Belarws yn ogystal â Phencampwriaethau Iau y Byd yn y ras wibio a'r keirin ym Moscow, Rwsia yn 2009[12].
Cafodd James ei dewis yn aelod o dîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2010 yn Delhi Newydd, India ac enillodd fedal arian yn y ras wibio ar ôl colli yn erbyn Anna Meares o Awstralia yn y rownd derfynol. Llwyddodd hefyd i gasglu medal efydd yn y 500m yn erbyn y cloc[13]. Cafodd ei henwebu ar gyfer rhestr fer Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 2010[14] ond collodd yn y bleidiais yn erbyn y pêl-droediwr Gareth Bale.
Llwyddodd James i ennill dwy fedal aur ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac UCI y Byd ym Minsk yn 2013. Trechodd yr Almaenwraig Kristina Vogel yn rownd derfynol y ras wibio[4][15] cyn ennill Pencampwriaeth Byd y Keirin ddiwrnod yn ddiweddarach[16].
Dioddefodd James anaf i'w phen-glin yn ystod 2014 a bu rhaid iddi dynnu allan o dîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow, Yr Alban ac wedi canlyniadau annisgwyl yn dilyn prawf serfigol yn ddiweddarach yn y flwyddyn, cafodd James driniaeth ar gyfer canser serfigol[17].
Dwy flynedd ers cystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Cali, Colombia, llwyddodd James i ddychwelyd i'r gamp ac ennill medal efydd ym Mhencampriaeth y Byd yn Llundain ym mis Mawrth 2016[18].
Cafodd ei dewis yn nhîm Prydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil lle llwyddodd i ennill dwy fedal arian yn y keirin a'r ras wibio[19].
Y chwaraewr rygbi'r undeb, George North, ydy partner James[17].
- 2005
- 3ydd Omnium, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain – dan 14
- 2006
- 1af 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain – dan 16
- 2007
- 1af 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain – Iau
- 1af 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain – dan 16
- 1af Ras wibio, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain – dan 16
- 1af Ras scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain – dan 16
- 2il Ras wibio, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain – Iau
- 3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Traws Seiclo Prydain – Iau
- 2009
- 1af Keirin, Pencampwriaethau Seiclo Trac y Byd, UCI – Iau
- 1af Ras wibio, Pencampwriaethau Seiclo Trac y Byd, UCI – Iau
- 2il 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Seiclo Trac y Byd, UCI – Iau
- 1af Ras wibio, Pencampwriaethau Trac Ewrop
- 1af 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Trac Ewrop
- 2il Keirin, Pencampwriaethau Trac Ewrop
- 2il Keirin, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 3ydd Ras wibio, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 3ydd 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2010
- 1af Ras wibio, Pencampwriaethau Trac Ewrop, dan 23
- 2il 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Trac Ewrop, dan 23
- 2il Ras wibio tîm, Pencampwriaethau Trac Ewrop, dan 23 (gyda Victoria Williamson)
- 3ydd 500m yn erbyn y cloc, Gemau’r Gymanwlad, 2010
- 2il Ras wibio Gemau’r Gymanwlad, 2010
- 2il 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2il Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2011
- 3ydd Keirin, Rownd 3, Cwpan y Byd, UCI 2010–2011, Beijing
- 3ydd Ras wibio, GP von Deutschland im Sprint
- 2il Treial amser 500m, Pencampwriaethau Trac Ewrop, dan 23
- 1af Keirin, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2il Treial amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2012
- 2il Ras wibio tîm, Pencampwriaethau Trac Ewrop, dan 23
- 3ydd Ras wibio, Pencampwriaethau Trac Ewrop, dan 23
- 3ydd Keirin, Pencampwriaethau Trac Ewrop, dan 23
- 1af Ras wibio tîm, Rownd 1, Cwpan y Byd, UCI 2012–2013, Cali (gyda Jess Varnish)
- 2il Ras wibio, Rownd 1, Cwpan y Byd, UCI 2012–2013, Cali
- 1af Ras wibio tîm, Rownd 2, Cwpan y Byd, UCI 2012–2013, Glasgow (gyda Jess Varnish)
- 3ydd Ras wibio, Rownd 2, Cwpan y Byd, UCI 2012–2013, Glasgow
- 1af Keirin, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Ras wibio, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af 500m yn erbyn y cloc, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Ras wibio tîm, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (gyda Rachel James)
- 2013
- Pencampwriaethau Seiclo Trac y Byd, UCI
- 1af Ras wibio
- 1af Keirin
- 3ydd 500m yn erbyn y cloc
- 3ydd Ras wibio tîm (gyda Victoria Williamson)
- 1af Treial amser 500m, Dosbarthiad y Byd, UCI
- 2014
- Pencampwriaethau Seiclo Trac y Byd, UCI
- 3ydd Ras wibio tîm (gyda Jessica Varnish)[20]
- 3ydd Keirin[21]
- 2015
- 2il Ras wibio, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain[22]
- 2il Keirin, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain[23]