Duw iachaol Celtaidd hynafol yw Belenus (Galeg: Belenos, Belinos). Addolid Belenus hyd Gorynys yr Eidal i Ynysoedd Prydain, gyda'r brif gysegrfa yn Aquileia. Drwy interpretatio romana, cysylltir Belenus ag Apolon, er bod ganddo beth ymreolaeth yn ystod oes y Rhufeiniaid.[1][2]
Mae'r theonym Belenus (neu Belinus), sy'n ffurf Ladin ar yr Aleg Belenos (neu Belinos), i'w weld mewn pum deg un arysgrif. Er bod y rhan fwyaf o'r arysgrifau hyn yn Aquileia (Friuli, yr Eidal), prif le ei gwlt, ceir tystiolaeth o'i enw mewn llefydd ymhle y trigai siaradwyr ieithoedd Celtaidd, gan gynnwys Gâl, Noricum, Illyria, Britain ac Iwerddon.[3]
Mae'r ieithydd Blanca María Prósper yn dadlau mai Belinos yw'r enw gwreiddiol siŵr o fod,[4] sydd hefyd i'w weld yn yr enw Belyn, sydd hefyd yn enw ar arweinydd Cymreig a fu farw yn 627 AD.[3] Mae amrywiadau eraill ar yr enw yn cynnwys Bellinus ac efallai Belus.[5] Efallai y bu'r Gwyddelod a'r Brythoniaid hynafol yn ei adnabod yn Bel, Beli, a Bile.[6]
Mae etymoleg y gair Belenos dal i fod yn aneglur. Cyfieithir ef yn draddodiadol yn 'y golau' neu 'y llachar', o'r bôn Proto-Indo-Ewropeg *bʰelH-, 'can, bân, gwyn'. Mae'r theori hwn yn boblogaidd oherwydd y interpretatio romana o Belenos yn 'Apolon Galiaidd', sy'n dduw ag iddo briodoleddau'r haul.[7][8]
Yng Ngâl a Phrydain hynafol, cysylltwyd Apolon â'r haul ac iacháu.[9] Mae sawl enw arall arno, gan gynnwys Belenus, Vindonnus, Grannus, Borvo, Maponos, a Moritasgos.[9][10]
Addolid y duw yn Apollo Belenus yn Sainte-Sabine (Bourgogne), lle addolwyd ef gan bererinion sâl.