Math | ardal o Lundain |
---|---|
Enwyd ar ôl | Belgrave |
Ardal weinyddol | Dinas Westminster, Bwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | canol Llundain |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.498°N 0.1545°W |
Cod OS | TQ275795 |
Cod post | SW1X, SW1W |
Ardal yng ngorllewin Llundain yw Belgravia, a leolir ym mwrdeistrefi Dinas Westminster a Kensington a Chelsea. Datblygwyd yr ardal yn y 19g gan y teulu Grosvenor, sydd bellach yn dwyn y teitl Dug Westminster. Enwir yr ardal ar ôl y prif sgwâr sydd yno, sef Belgrave Square, ac mae'r enw hwnnw yn cyfeirio at bentref Belgrave, rhan o ystâd y teulu Grosvenor yn Swydd Gaer.[1] Enwir y strydoedd Halkin Street, West Halkin Street a Halkin Place ar ôl Castell Helygain, ystâd y teulu yn Sir y Fflint.[2] Mae nifer fawr o lysgenadaethau yn yr ardal, yn enwedig o gwmpas Belgrave Square.[3]