Ben Cabango | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mai 2000, 23 Mai 2001 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Taldra | 1.88 metr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | C.P.D. Dinas Abertawe, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru |
Safle | amddiffynnwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Pêl-droediwr proffesiynol o Gymro yw Benjamin Cabango (ganwyd 30 Mai 2000) sy'n chwarae fel amddiffynnwr i Ddinas Abertawe .
Ganwyd Cabango yng Nghaerdydd i dad Angolaidd a mam o Gymru. Mae ganddo frawd iau o'r enw Theo sy'n chwarae rygbi.[1] Mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr.[2][3]
Dechreuodd Cabango ei yrfa fel chwaraewr ieuenctid gyda'r tîm amatur leol Maindy Corries, lle'r oedd ei dad Paolo yn hyfforddwr, cyn iddo ymuno ag academi ieuenctid Sir Casnewydd,[4] lle chwaraeodd o lefelau dan-13 i lefelau dan-15. Symudodd i'r academi yn Ninas Abertawe lle bu'n gapten ar yr ochr dan-19 i ennill Cwpan Ieuenctid Cymru CBDC yn 2018 a helpodd yr ochr dan-23 i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Uwch Gynghrair Lloegr ar gyfer timau dan-23.[2][5]
Ym mis Mehefin 2018, arwyddodd Cabango i bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru ar y pryd, Y Seintiau Newydd ar gytundeb benthyciad chwe mis.[2] Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm hŷn mewn gêm lle collwyd 5–0 i dîm Macedoneg KF Shkëndija yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Pencampwyr UEFA.[6] Yn y cymal nesaf, sgoriodd Cabango ei gôl gyntaf ar lefel uwch wrth i’r Seintiau Newydd ennill 4–0 ond collasant ar gyfanswm goliau.[7]
Ar 13 Awst 2019, gwnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf dros Abertawe mewn buddugoliaeth 3-1 dros Northampton Town yn rownd gyntaf Cwpan Cynghrair Lloegr.[8] Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y gynghrair fel eilydd yn erbyn Huddersfield Town ar 26 Tachwedd 2019.[9]
Cafodd ei gynnwys yng ngharfan Cymru yn Awst 2020 [10] ac enillodd ei gap cynta dros Gymru ar 3 Medi 2020 mewn gêm yn erbyn y Ffindir yn Helsinki.[11]
Clwb | Tymor | Cynghrair | Cwpan FA | Cwpan y Gynghrair | Arall | Cyfanswm | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Adran | Ymdd | Goliau | Ymdd | Goliau | Ymdd | Goliau | Ymdd | Goliau | Ymdd | Goliau | ||
Dinas Abertawe | 2018–19 | Pencampwriaeth | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | - | 0 | 0 | |
2019–20 | Pencampwriaeth | 0 | 0 | 0 | 0 | 3 | 0 | - | 3 | 0 | ||
Cyfanswm gyrfa | 0 | 0 | 0 | 0 | 3 | 0 | - | 3 | 0 |