Benjamin Constant | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Henri-Benjamin Constant de Rebecque ![]() 25 Hydref 1767 ![]() Lausanne ![]() |
Bu farw | 8 Rhagfyr 1830 ![]() Paris ![]() |
Dinasyddiaeth | Y Swistir, Ffrainc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, gwleidydd, llenor, dyddiadurwr, gwyddonydd ![]() |
Swydd | Member of the Chambre des députés des départements, Member of the Chambre des députés des départements, Member of the Chambre des députés des départements, Member of the Chamber of Deputies ![]() |
Adnabyddus am | Adolphe ![]() |
Arddull | nofel ![]() |
Mudiad | Rhyddfrydiaeth, Rhamantiaeth ![]() |
Priod | Charlotte Constant de Rebecque (1769-1845) ![]() |
Partner | Germaine de Staël ![]() |
Gwobr/au | Q130762055 ![]() |
Nofelydd a llenor gwleidyddol Ffrengig oedd Henri-Benjamin Constant de Rebecque (25 Hydref 1767 – 8 Rhagfyr 1830).[1]
Ganwyd yn Lausanne yn y Swistir, i dad o dras Ffrengig. Mynychodd prifysgolion Erlangen a Chaeredin.
Mae ei waith hunangofiannol Adolphe (1816) yn rhagflaenydd i'r nofel seicolegol fodern. Fe gafodd berthynas â Germaine de Staël, ac roedd y ddau ohonynt yn gwrthwynebu Napoleon Bonaparte.
Ganwyd Henri-Benjamin Constant de Rebecque yn Lausanne, ar lannau gogleddol Llyn Genefa, yng ngorllewin hen Gydffederasiwn y Swistir. Merch o hen deulu Protestannaidd a wnaeth ffoi i Vaud oedd ei fam, a fu farw wedi iddi esgor arno. Cyrnol mewn catrawd Swisaidd, a fu'n gwasanaethu'r Iseldiroedd, oedd ei dad Juste. Aeth i Brifysgol Erlangen ym Mafaria yn 1782–3 cyn iddo astudio ym Mhrifysgol Caeredin yn 1783–5, lle'r oedd yn aelod gweithgar o'r Speculative Society a dylanwadwyd arno'n gryf gan syniadau'r Oleuedigaeth Albanaidd a'r economegwyr gwleidyddol.[2]
Aeth i Baris yn 1785–6, a bu'n byw yn nhŷ'r cylchgronwr a beirniad Jean-Baptiste-Antoine Suard. Dychwelodd i Lausanne yn 1786, ac yn 1788 cymerodd swydd Gwrda'r Siambr yn llys Charles William Ferdinand, Dug Brunswick-Wolfenbüttel, yng ngogledd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yno fe briododd y Farwnes Wilhelmina von Cramm, un o foneddigesau preswyl y llys, yn 1789. Gadawodd y swydd yn 1794, dwy flynedd wedi cychwyn Rhyfel y Glymblaid Gyntaf. Methiant a fu ei briodas, felly dychwelodd Constant i'r Swistir.[2]
Ym Medi 1794, cyfarfu Constant â Germaine de Staël. Magodd berthynas â'r llenores, a symudodd y pâr i Baris ym Mai 1795. Mae'n debyg taw Constant oedd yn dad i ferch de Staël, Albertine (1797–1838), a anwyd pan oedd hi'n briod i Erik Magnus Staël von Holstein, cyn-lysgennad Sweden i Ffrainc. Yn 1794, prynodd Constant Abaty Hérivaux yn Luzarches, ger Coedwig Chantilly, er mwyn iddo ennill dinasyddiaeth Ffrengig. Fel Ffrancwr o'i wirfodd, dadleuodd Constant o blaid gwerthoedd y Chwyldro Ffrengig.[2]
Ar droad y ganrif, daeth Constant dan nawdd y gwleidydd Emmanuel-Joseph Sieyès. Etholwyd Constant i'r Dribiwniaeth yn Ionawr 1800. Dadleuodd yn gyson o blaid rhyddid mynegiant, ac o ganlyniad cafodd ei ddiswyddo gan Napoleon Bonaparte yn 1802. Treuliodd y cyfnod 1802–14 mewn alltudiaeth gyda de Staël, ar ei hystâd deuluol yn Coppet, ger Genefa, yn Weimar (1803–4), ac yn Göttingen, Brunswick a Hanover (1812–13). Priododd Charlotte von Hardenberg yn 1808, er iddo barhau'n agos i de Staël nes 1811.[2]
Symudodd Constant yn ôl i Ffrainc yn 1814 yn sgil yr Adferiad Bourbonaidd, ac yno fe fu'n byw am weddill ei oes, heblaw am flwyddyn a hanner yn Llundain o 1816 i 1817. Gwasanaethodd yn ddirprwy dros sawl etholaeth yn y cyfnodau 1819–22 a 1824–30. Dadleuodd yn gyhoeddus o blaid rhyddid y wasg, diddymu'r fasnach gaethweision, ac annibyniaeth Gwlad Groeg oddi ar Ymerodraeth yr Otomaniaid. Bu farw ym Mharis yn 63 oed yn 1830, rhyw pedwar mis ar ôl cwymp y frenhiniaeth Bourbonaidd yn Chwyldro'r Gorffennaf.[2]