Bernard de Ventadour | |
---|---|
Ganwyd | 12 g Moustier-Ventadour |
Bu farw | c. 1190s Sainte-Trie |
Galwedigaeth | Trwbadŵr, cyfansoddwr |
Blodeuodd | 12 g |
Mudiad | cerddoriaeth ganoloesol |
Roedd Bernard de Ventadour (Ffrangeg) neu Bernart de Ventadorn (Ocsitaneg/Profensaleg) (tua 1125, Ventadour - tua 1195) yn un o'r enwocaf o'r trwbadwriaid (Ffrangeg: troubadours).
Ychydig iawn a wyddom yn bendant am fywyd y bardd. Cedwir ei hanes yn y bywgraffiadau a gyfansoddwyd tua hanner can mlynedd ar ôl ei farw, ond mae'r vidas hyn, fel bucheddau'r saint, yn cynnwys deunydd sy'n wir am y trwbadwriaid yn gyffredinol ynghyd ag elfennau apocryffaidd am anturiiaethau carwriaethol. Dywedir ei fod yn fab i filwr cyflog yng ngwasanaeth arglwydd castell Ventadour, yn Corrèze, Profens, a gwraig a ofalai am y pobty a gwneud bara yno. Ond does dim sicrwydd am hynny ac mae ffynonellau eraill yn awgrymu ei fod yn perthyn mewn gwirionedd i linach arglwyddi Ventadour ac iddo farw yn abad ar abaty Saint-Martin de Tulle. Gwyddys iddo ddod yn ddisgybl barddol i'r vicomte Ebles III Lo Cantador ("Y Cantor") a'i noddodd a'i ddysgodd sut i gyfansoddi ar y mydrau trobar. Yn ôl traddodiad, cyfansoddodd gerddi serch i wraig ifanc mab Ebles III ac mewn canlyniad bu rhaid iddo ffoi Ventadour.
Treuliodd gyfnod yng ngwasanaeth Eleanor d'Aquitaine a oedd wedi priodi Harri Plantagenet, ac wedyn bu'n canu yn llys Raymond V o Toulouse. Yn ôl ei vida, treuliodd ei flynyddoedd olaf yn Abaty Dalon.
Mae ei gerddi - cansons ("caneuon") yn yr iaith Occitan - yn goeth ac thryloyw, wedi eu trwytho a'i brofiadau a theimladau personol. Cerddi i'w canu oedd y cansons (Ffrangeg: chansons), fel cerddi'r trwbadwriaid yn gyffredinol, ac mae Bernard yn cael ei ystyried yn un o gerddorion gorau ei oes yn ogystal â bod yn un o feirdd mawr y canu serch Profensaleg.