Bethel (Israel)

Bethel
Mathanheddiad dynol, lle yn y Beibl Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCanaan, Kingdom of Israel Edit this on Wikidata
GwladBaner Israel Israel
Arwynebedd50 Dunam Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.9228°N 35.2414°E Edit this on Wikidata
Map
Gweler Bethel am enghreifftiau eraill o'r enw.

Roedd Bethel (Hebraeg: בית אל Beth El, "Tŷ Dduw") yn dref yn yr hen Israel, tua 10 milltir i'r gogledd o Jerusalem. Credir ei bod ar safle pentref Palesteinaidd presennol Beitun ar y Lan Orllewinol, ac mae gwladfa Israelaidd Beit El gerllaw yn cadw'r enw.

Yn y Beibl, syrthiodd Jacob i gysgu a'i ben ar garreg yma, ac yn ei freddwyd gwelodd ysgol yn arwain i'r nefoedd ac angylion yn symud i fyny ac i lawr arni. Yn ddiweddarach mae Jacob yn adeiladu allor yma.

Yn llawer diweddarach dyma lle gosodwyd y Llo Aur gan y brenin Jeroboam, gydag un arall yn Dan. Credir bod yr enw Beth-El yn dod o gyfnod cynharach, gan fod El yn wreiddiol yn dduw Cananeaidd.

Mae Bethel yn enw poblogaidd ar drefi a phentrefi ledled y byd, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau. Ceir o leiaf ddau bentref a'r enw yma yng Nghymru, Bethel ar Ynys Môn a Bethel yng Ngwynedd. Mae hefyd yn enw poblogaidd iawn ar gapeli yng Nghymru.

Eginyn erthygl sydd uchod am Israel. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.