Bettie Page | |
---|---|
Ganwyd | Bettie Mae Page 22 Ebrill 1923 Nashville |
Bu farw | 11 Rhagfyr 2008 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | Playmate, model hanner noeth, model |
Taldra | 166 centimetr |
Pwysau | 58 cilogram |
Gwobr/au | Playboy Playmate y Mis |
Gwefan | https://www.bettiepage.com |
Roedd Bettie Page (22 Ebrill 1923 – 11 Rhagfyr 2008) yn fodel Americanaidd a ddaeth yn enwog yn ystod y 1950au am ei modeli ffetis a'i lluniau pinyp. Dylanwadodd ei phryd a'i gwedd, gwallt du fel y fagddu a'i rhimyn o wallt ar nifer o artistiaid eraill.
Roedd Bettie Page hefyd yn un o'r Playmates y Mis cynharaf ar gyfer cylchgrawn Playboy. Dywedodd sefydlwr Playboy, Hugh Hefner "Credaf ei bod yn wraig rhyfeddol, yn ffigwr eiconig yn niwylliant pop a ddylanwadodd ar rywioldeb, chwaeth ym myd ffasiwn, rhywun a gafodd ddylanwad aruthrol ar ein cymdeithas."[1]
Yn ystod ail hanner ei bywyd, dioddefodd o iselder, tymer treisgar a sawl blwyddyn mewn ysbyty meddwl.[2] Yn ystod y 1960au trodd at Gristnogaeth a gweithiodd fel cenhadwr y Bedyddwyr yn Angola. Ar ôl blynyddoedd o fywyd cymharol di-nod, ail-gynnwyd ei phoblogrwydd yn y 1980au ac mae ganddi genfogaeth gwlt sylweddol.